Paratowch ar gyfer profiad ffilm awyr agored! Fis Medi, byddwn yn troi tiroedd hyfryd Castell a Pharc Cyfarthfa yn sinema awyr agored.
P'un a ydych chi'n cynllunio noson ramantus unigryw, noson hwyliog allan gyda ffrindiau, neu noson hudolus o dan y sêr gyda'r teulu, mae gennym y gefnlen berffaith ar gyfer noson fythgofiadwy.
Ffilmiau
Dydd Gwener 11 Medi- Labyrinth (PG)
Dawns, hud, dawns! Camwch i fyd hudolus Jim Henson o gorachod, drysfeydd, a David Bowie ar ei fwyaf cŵl.
Dydd Sadwrn 12 Medi - Mamma Mia (PG)
Rhyddhewch eich Dancing Queen fewnol! Ymgollwch ar ynys heulog yng Ngwlad Groeg am noson o ramant, anhrefn, a chlasuron ABBA.
Manylion y Digwyddiad
- Lleoliad: Parc Cyfarthfa (cynhelir y digwyddiad ar y llethr ger y llyn)
- Gatiau'n Agor: 6:45 PM (dylech gyrraedd yn gynnar i fachu'r lle gorau a mwynhau'r machlud!)
- Ffilm yn dechrau: Ar adeg y cyfnos (tua 7:40PM)
- Mae tocynnau yn £5 y pen (gan gynnwys ffioedd archebu). Mae parcio yn £5 y car yn ychwanegol.
- Digwyddiad yn Gorffen: Tua 9:40PM
Os gallwch chi, ystyriwch gerdded, olwyno neu feicio yn ddiogel i'r digwyddiad. Mae'n ffordd wych o fwynhau'r parc o'r eiliad y byddwch chi'n cyrraedd, ac yn ein helpu i gadw'r ardal yn groesawgar ac yn hygyrch i bawb.
Parcio: Mae gan Barc Cyfarthfa gapasiti llym o ran niferoedd cerbydau. Er mwyn rheoli traffig, parhau i gynnal digwyddiadau'n ddiogel a gwarantu lle i bawb, mae lleoedd parcio ar gyfer y digwyddiad hwn yn £5 y car a rhaid eu harchebu ymlaen llaw ar-lein. Rydym yn annog rhannu ceir lle bo'n bosibl. Defnyddiwch y prif faes parcio wrth ymyl y Bothy. I helpu i gadw pawb yn ddiogel, peidiwch â pharcio ar y rhodfeydd. Os oes gennych ofynion mynediad ychwanegol, rhowch wybod i ni pan fyddwch chi'n archebu eich tocynnau. Bydd parcio cyfyngedig ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas ar gael yn y maes parcio wrth ymyl y gatiau ffrynt.
Mynediad: Bydd y digwyddiad ar y llethr ger y llyn, felly byddwch yn ofalus wrth gyrraedd yr ardal. Os oes angen llwybr mwy gwastad arnoch, ewch i’r rheilffordd fach ger y brif fynedfa. Bydd mynediad i'r parc ar gyfer deiliaid tocynnau yn unig.
Bwyd: Bydd bwyd a diod ar gael gan werthwyr lleol. Mae croeso i chi hefyd ddod â'ch bwyd a'ch diod eich hun, ond sylwch na chaniateir llestri gwydr na barbeciw.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!
Cael eich tocynnau
Bydd tocynnau ar werth yn y ddolen isod am 10am ddydd Gwener 24 Gorffennaf.
Mae'r capasiti yn gyfyngedig ac rydym yn disgwyl i'r tocynnau werthu’n gyflym. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n barod i fachu eich tocynnau cyn gynted ag y byddant yn mynd yn fyw!
https://www.ticketsource.com/cyfarthfafoundation
Sinema sy'n Rhoi yn Ôl!
Mae Sefydliad Cyfarthfa yn elusen sy'n gweithio i drawsnewid Castell a Pharc Cyfarthfa yn gyrchfan ddiwylliannol o arwyddocâd cenedlaethol.
Oeddech chi'n gwybod? Rydym yn elusen ddielw! Mae pob ceiniog a godir o werthu tocynnau yn mynd yn syth yn ôl i gefnogi ein gwaith hanfodol. Mwynhewch noson allan wych gan wybod bod eich tocyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Gwirfoddoli gyda Ni
Rydym yn gwahodd pobl leol i chwarae rhan yn nhaith Cyfarthfa drwy raglen wirfoddoli newydd Hyrwyddwyr Cyfarthfa. P'un a hoffech gefnogi digwyddiadau, cael profiadau newydd, cwrdd â phobl neu roi rhywbeth yn ôl i le yr ydych chi'n angerddol amdano, mae rôl i chi.
Ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio gwirfoddolwyr i gefnogi'r digwyddiad sinema awyr agored ar 11 a 12 Medi. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy!