Haf yng Nghyfarthfa - Diweddariad y Prif Swyddog Gweithredol

August 14 2026

Mae misoedd yr haf yn dod â math gwahanol o egni i Gyfarthfa. Mae'r parc ar agor yn hwyrach gyda'r nos felly mae gwahanol fathau o ymwelwyr yn cyrraedd trwy gydol y dydd, gan ddod â’u rhythm eu hunain i'r safle.

Cyfarthfa Foundation Chair Geraint Talfan Davies with Derek Walker, Future Generations Commissioner.jpg

Mae'r cerddwyr cŵn a phobl yn rhedeg yn gynnar yn y bore yn cyfarch yr haul, teuluoedd a phobl ifanc yn cadw’n cŵl yn y lle chwarae dŵr ar adeg boethaf y dydd, ac ymwelwyr yn yr amgueddfa a'r oriel yn dysgu am dreftadaeth gyfoethog Merthyr neu’n mwynhau'r arddangosfa bresennol o baentiadau Cymreig cyfoes. Ledled y parc, cynhelir cystadlaethau chwaraeon ar y cyrtiau tenis a'r cae 5-bob-ochr, tra bod artistiaid a gwneuthurwyr yn brysur yn bod yn greadigol yn Oriel Bothy. Wrth iddi nosi, mae'r awyrgylch yn newid eto, a phicnics wedi'u gwasgaru ar draws y Pandy glaswelltog a chaeau glan y llyn, teithiau cerdded rhamantus o amgylch y llyn wrth i’r haul fachlud, anturiaethau yn y coetir gyda’r hwyr, a hyd yn oed ffrindiau yn sgwrsio gyda diod oer.

Lle i fod yn falch ohono

Mae'r rhythmau dyddiol hyn yn ein hatgoffa o bwysigrwydd Cyfarthfa nid yn unig fel lle ar gyfer diwylliant a threftadaeth, ond hefyd ar gyfer iechyd a lles, addysg, hamdden, chwaraeon a mwynhau'r amgylchedd naturiol. Cyfarthfa yw parc cyhoeddus mwyaf Merthyr felly mae wedi bod yn ganolbwynt gwych i’r gymuned ers dros 120 o flynyddoedd, gan helpu i gryfhau cydlyniant a meithrin balchder yn y lle.

Yn unol â hyn, er bod Cynllun Cyfarthfa yn canolbwyntio ar y parc a'r castell yn bennaf, mae hefyd yn cynnig nifer o brosiectau y tu allan i ffin y parc. Mae'r rhain yn cynnwys: arwyddion gwell a mynediad i gerddwyr, stiwdios a gweithdai creadigol yng nghanol y dref, mannau perfformio newydd, 'lolfeydd' trefol a chyfleusterau parc.

Mae wedi bod yn wych gweld y weledigaeth honno yn dechrau ffurfio, gyda phlant a theuluoedd yn mwynhau'r maes chwarae newydd yng nghanol y dref, wedi'i ysbrydoli gan Gastell Cyfarthfa, ac wedi'i leoli wrth ymyl murlun Cyfarthfa200. Mae’r ffaith ei fod wedi’i gyflwyno gan Gyngor Merthyr Tudful yn enghraifft wych o sut y gall buddsoddiad yng Nghyfarthfa gryfhau'r berthynas rhwng y parc a chanol y dref er budd ei gilydd, gan ddarparu manteision parhaol i'r gymuned leol.

Y flwyddyn i ddod

Nid yw ailddatblygu adeilad cymhleth 200 mlwydd oed yn hawdd, ac yn dilyn y newyddion na chafodd ein cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Chyngor Merthyr Tudful ym mis Chwefror, ei ddewis i fwrw ymlaen o’r rownd hon, rydym yn falch o fod wedi derbyn adborth cadarnhaol ar arwyddocâd y dreftadaeth a chefnogaeth i'r cynlluniau ar gyfer yr adeilad yn y dyfodol. Roedd y cais hwn yn ddarn sylweddol o waith gyda dros 600 o dudalennau gan gynnwys: cynlluniau pensaernïol manwl ar gyfer y castell, arolygon, modelau busnes, cynlluniau ar gyfer gweithgareddau i’r gymuned, cynlluniau dehongli cychwynnol a nifer o lythyrau o gefnogaeth. Mae tîm y Sefydliad a swyddogion y Cyngor bellach yn cydweithio'n agos i gryfhau'r cais cyn ei ailgyflwyno.

Roedd 2025 yn flwyddyn wych i ddathlu deucanmlwyddiant Cyfarthfa. Gallwch edrych ar ein dogfen Adolygiad Blynyddol 25/26 yma i ddarllen mwy am gyflawniadau'r garreg filltir wych.

Ar ôl treulio blwyddyn yn dathlu pen-blwydd Cyfarthfa yn 200 oed, roedd ymweliad

Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Derek Walker, a'i dîm yn ddiweddar yn gyfle i'w groesawu i edrych i’r dyfodol.

Er bod Cynllun Cyfarthfa yn nodi gweledigaeth ar gyfer y 20 i 30 mlynedd nesaf, y nod yn y pen draw yw sicrhau bod Cyfarthfa yn parhau yn llawer hirach na hynny, am y 200 mlynedd nesaf, a thu hwnt. Roedd y trafodaethau gyda thîm Cenedlaethau'r Dyfodol yn canolbwyntio nid yn unig ar ddyfodol y castell, ond ar y rôl y gall Cyfarthfa ei chwarae wrth gefnogi Cymru hyderus, gynhwysol a chynaliadwy yn y dyfodol. Edrychwn ymlaen at barhau â'n sgyrsiau gyda Chomisiwn Cenedlaethau'r Dyfodol, cryfhau partneriaethau, a gwireddu’r weledigaeth hirdymor honno.

Cyn hynny, rydym yn llawn cyffro i groesawu’r gymuned i Gyfarthfa i’n nosweithiau sinema awyr agored ar 11 a 12 Medi. Gobeithio y byddwch chi'n ymuno â ni yn yr hyn sy'n addo bod yn ffordd wych o ddod â’r haf i ben. Mae tocynnau ar gael yma.
 

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a chael y wybodaeth ddiweddaraf am Gyfarthfa.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×