Rhaid i’r genhedlaeth ifanc fod yn ganolog yng ‘Nghynllun Cyfarthfa’ Merthyr Tudful

March 2 2020

Rhaid cynnwys y genhedlaeth ifanc os yw cynlluniau i greu canolfan treftadaeth ddiwydiannol ryngwladol Cyfarthfa am lwyddo.

Children in red t-shirts stood either side of a narrow table doing arts and crafts with beads and pencils.jpg

Dyna’r neges – gan y tîm o ymgynghorwyr sy’n gweithio ar ddatblygu’r uwchgynllun 25 mlynedd ar gyfer trawsnewid asedau hanesyddol helaeth Merthyr Tudful – yn dilyn bron i 60 o gyfarfodydd ymgynghori a gweithdai a gynhaliwyd yn y fwrdeistref sirol.

Yn ystod pum mis cyntaf y broses o 12 mis i ddatblygu’r cynllun, cynhaliwyd cyfarfodydd a gweithdai creadigol gyda disgyblion cynradd ac uwchradd ac athrawon, myfyrwyr coleg a darlithwyr, grwpiau cymunedol, swyddogion y Cyngor Bwrdeistref Sirol, swyddogion Llywodraeth Cymru a’r sefydliad cadwraeth CADW.

“Rydyn ni wedi ymestyn ymhell i siarad â chynifer o grwpiau, mudiadau ac aelodau o’r cyhoedd â phosibl,” meddai arweinydd y prosiect, Jonathan Shaw o Ian Ritchie Architects (iRAL).  “Mae parodrwydd pawb i ymgysylltu â ni wedi bod yn eithriadol.

“Rydyn ni wedi cael trafodaethau gonest ac agored iawn gyda phawb ynghylch Cyfarthfa, Merthyr Tudful, ei hanes, ei hamgylchedd, ei diwylliant a’r dyfodol.  Mae balchder amlwg yn y dref, gyda chariad gwirioneddol at ei hanes, a brwdfrydedd i greu newid gwirioneddol.  Ni allem fod wedi gofyn am ganlyniad gwell.”

Dywedodd Mr Shaw fod y prosiect yn brosiect tymor hir, a oedd yn golygu bod ‘rhaid i leisiau, gweithredoedd a chyfranogiad cenedlaethau iau fod yn rhan o’i siapio’.   

Ychwanegodd: “Mae gan genedlaethau’r dyfodol ran wirioneddol i’w chwarae o ran creu effaith fentrus a dychmygus, nid yn unig o ran y ffordd y gellid dehongli hanes a threftadaeth gyfoethog y dref, ond hefyd o ran gwarchod a gwella ei hamgylchedd naturiol, a sicrhau bod ei chreadigrwydd amrywiol yn llifo.

“Er mai dim ond traean o’r ffordd drwy ein gwaith ydyn ni, rydyn ni eisoes yn gallu gweld cyfleoedd gwych a ddaw drwy brofiadau newydd, mwy o bosibiliadau addysgol ac adnewyddu’r economi.  Rhaid i’r Cynllun hwn edrych tua’r dyfodol – nid yw cydnabod y gorffennol yn ddigon.”    

Dywedodd Mr Shaw ei bod yn hanfodol i bobl leol gael ymdeimlad o berchnogaeth dros y prosiect.  “Dylai’r cynllun ddod gan y bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn chwarae ym Merthyr.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Geraint Thomas, fod y toreth o asedau treftadaeth sydd gan Ferthyr Tudful yn cynnwys 223 o adeiladau rhestredig. Roedd un ohonynt – Castell Cyfarthfa – yn y categori Gradd 1, sef ‘diddordeb eithriadol, cenedlaethol’, 12 yn y categori Gradd 2 ‘arwyddocaol’ a 48 yn ‘Henebion Rhestredig’.

Dywedodd fod y Cyngor wedi dewis Ian Ritchie Architects i weithio’n agos gyda Chomisiwn Dylunio Cymru i arwain y tîm i ddatblygu Cynllun Cyfarthfa – nid yn unig ar gyfer Castell Cyfarthfa a’i barc 190 erw, ond hefyd ar gyfer ardal i’r gorllewin o Afon Taf sy’n cynnwys ffwrneisi hanesyddol.

“Rydyn ni'n falch iawn fod y tîm wedi mynd allan i’r gymuned i gasglu atgofion a meddyliau trigolion lleol ar gyfer dyfodol Merthyr Tudful, a bod y broses wedi bod mor llwyddiannus,” ychwanegodd.

“Rydyn ni’n cytuno bod yn rhaid annog y genhedlaeth iau i chwarae rhan flaenllaw yn y Cynllun – wedi’r cyfan, nhw fydd yn elwa o’r cyfleoedd a ddaw yn sgil rhoi’r cynllun ar waith, a gobeithio y byddant yn gofalu am y cyfleoedd hynny.”

Cynhelir ymgynghoriadau pellach gydag ysgolion, colegau a’r cyhoedd yn ehangach cyn y bwriedir cyflwyno’r cynllun terfynol ym mis Medi.

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a chael y wybodaeth ddiweddaraf am Gyfarthfa.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×