Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn chwilio am dîm o’r ymgynghorwyr gorau i baratoi Uwchgynllun strategol ar gyfer atyniad i ymwelwyr o ansawdd rhyngwladol yn seiliedig ar rôl ganolog y dref yn y chwyldro diwydiannol.

Bydd y datblygiad gwerth miliynau o bunnoedd yn canolbwyntio ar Gastell Cyfarthfa a’i barc 77 hectar, a fu unwaith yn gartref i’r teulu Crawshay, meistri haearn a helpodd i droi Merthyr Tudful yn ganolfan cynhyrchu haearn fwyaf y byd yn y 19eg ganrif.
Mae’r tendr a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn rhagweld ymarfer uwchgynllunio 12 mis ar gyfer datblygiad sydd eisoes wedi cael ei ddynodi gan Lywodraeth Cymru yn borth allweddol ar gyfer ei Barc Rhanbarthol arfaethedig ar gyfer Cymoedd y De.
Mae’r cysyniad yn seiliedig ar gynigion a nodir yn adroddiad Crwsibl Comisiwn Dylunio Cymru yn dilyn ‘charrette dylunio’ yn 2017. Daeth y ‘charrette’ â mwy na 60 o bobl at ei gilydd – arbenigwyr dylunio, arbenigwyr amgueddfeydd a threftadaeth, a mudiadau cymunedol – i wyntyllu syniadau ar gyfer yr ardal. Roedd yr adroddiad, a dderbyniwyd yn unfrydol gan y Cyngor yn 2018, yn cynnig buddsoddi £50 miliwn a mwy i greu canolfan o bwysigrwydd cenedlaethol.
Daeth yr adroddiad i’r casgliad canlynol: “Mae’r doreth o asedau treftadaeth sydd gan y dref yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau’r cydlyniad a’r effaith y mae Merthyr yn eu haeddu. Gyda gweledigaeth drawiadol, gallai’r asedau hynny roi eu stamp eu hunain ar ymwybyddiaeth y cyhoedd mewn ffordd sy’n gweddu i’r dref fel man o arwyddocâd rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.”
Ochr yn ochr â phrosiect yr uwchgynllun, mae amserlen a chynllun prosiect ar wahân yn mynd i’r afael â’r broses o sefydlu SPV (Cyfrwng at Ddibenion Arbennig), sef is-gwmni. Bwriedir iddo geisio statws elusennol a bod yn weithredol cyn cyflwyno’r Uwchgynllun.
Mae’r Cyngor yn awyddus i benodi tîm dylunio i greu uwchgynllun strategol gweledigaethol ar gyfer datblygu asedau diwydiannol, tirwedd a threftadaeth ystâd Cyfarthfa, yn ogystal ag asedau treftadaeth eraill yn y dref.
Bydd yr uwchgynllun creadigol, aml-haenog yn nodi ac yn diffinio’r briff ar gyfer yr atyniad canolog i ymwelwyr a nifer o brosiectau cysylltiedig a fydd yn cael eu datblygu dros y blynyddoedd nesaf. Bydd y canlyniad yn chwarae rhan bwysig o ran gosod safon ar gyfer rhagoriaeth dylunio mewn datblygiad yn y dyfodol. Bydd yn tanio dychymyg i ddenu buddsoddiad a nifer yr ymwelwyr, a bydd yn cynnal cefnogaeth leol.
Dywedodd Gareth Chapman, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: “Mae cyhoeddi’r tendr hwn yn garreg filltir hollbwysig ar y ffordd tuag at wireddu ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Cyfarthfa a’r dref gyfan. Rydyn ni'n benderfynol y bydd hwn yn brosiect o’r safon uchaf. Gobeithio y bydd yn ennyn diddordeb y doniau gorau yn y wlad a’r tu hwnt er mwyn ein helpu i gyrraedd ein nod.”
Dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru, Carole-Anne Davies: “Mae gan Ferthyr Tudful bob rheswm dros ddisgwyl ansawdd a chreadigrwydd o safon ryngwladol. Mae gan Gyfarthfa a’i chyffiniau hanes o arloesi byd-eang arwyddocaol. Mae yna bob cyfle i ail-lunio’r hanes hwnnw gydag uchelgais newydd, i ddal dychymyg y cyhoedd ac i ddenu ymwelwyr newydd i Ferthyr Tudful a’r rhanbarth ehangach.”
Dywedodd Geraint Talfan Davies, Ymgynghorydd i'r Comisiwn Dylunio: “Rhaid i ni sicrhau bod cynllun o’r maint a’r cwmpas hwn yn cael ei adeiladu ar sylfeini cadarn. Bydd ymarferiad yr Uwchgynllun yn ein galluogi i asesu potensial yr holl ddarnau yn y jig-so fel eu bod, gyda’i gilydd, yn gallu gwneud cyfiawnder â phwysigrwydd stori Merthyr Tudful ac yn cyffroi cenedlaethau’r dyfodol.” Sylwer: Bydd yn rhaid i gynigwyr ar gyfer y gwaith hwn gyflwyno eu ceisiadau erbyn 17 Mai 2019, a disgwylir penderfyniad yn nes ymlaen ddechrau mis Gorffennaf. Yna, bydd y gwaith yn cymryd 12 mis arall.