Llwybr Calan Gaeaf i’ch Ysbrydoli ym Mharc Cyfarthfa

September 24 2025

Barod am ddiwrnod llawn bwganod a hwyl i'r teulu ym Mharc Cyfarthfa?

halloween-2025-main-image-welsh-3.jpg

Dros Galan Gaeaf, bydd y parc yn fwrlwm o swynion, straeon a syrpreis arswydus rownd pob cornel. Beth am ddilyn y llwybr gan gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau llawn hwyl?

  • Cymysgu eich cyfareddau eich hun
  • Dod o hyd i sgerbydau yn y tai gwydr
  • Rhoi cynnig ar greu bisgedi pren a chrefft concers
  • Adeiladu ffau ffiaidd yn y goedwig
  • Dilyn y llwybr pwmpenni
  • Mynd ar daith trên ysbrydion (os ydych chi'n ddigon dewr!)
  • Dod ynghyd ar gyfer sesiynau adrodd straeon ofnadwy o dda
  • Ymunwch â'n Teithiau Geogelcio Bwganllyd i’r Teulu i ddatgelu cyfrinachau cudd y parc!

A mwy...

Mae gwisg ffansi yn anghenraid - croeso i wrachod, bwganod, ysbrydion ac ellyllon!

Casglwch eich cerdyn llwybr o'r man gwybodaeth y tu allan i'r castell.

Trefnwch eich lle AM DDIM

*Codir tâl bach am weithdy'r amgueddfa a'r reilffordd fach.

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a chael y wybodaeth ddiweddaraf am Gyfarthfa.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×