Yng Ngwanwyn 2023 cyflwynodd Sefydliad Cyfarthfa, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, gynnig i Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru newydd gael ei sefydlu yng Nghyfarthfa. Gwahoddodd Llywodraeth Cymru gynigion ar gyfer safle angor yr Oriel o bum ardal awdurdod lleol ledled Cymru.
Yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru bod y penderfyniad wedi'i wneud i beidio â bwrw ymlaen â datblygu oriel angor ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru ar hyn o bryd, dywedodd Geraint Talfan Davies, Cadeirydd Sefydliad Cyfarthfa;
“Er ein bod yn siomedig na fydd safle angor Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru yn mynd yn ei flaen, rydym yn deall yn iawn y pwysau ariannol uniongyrchol sydd wedi arwain at benderfyniad Llywodraeth Cymru.
"Serch hynny, bydd Sefydliad Cyfarthfa yn bwrw ymlaen â'n cynlluniau i achub Castell Cyfarthfa, safle rhestredig Gradd 1, ym Merthyr Tudful, sydd eisoes yn gartref i gasgliad celf sylweddol iawn o'r 20fed ganrif. Ymhen amser, rydym yn gobeithio ehangu'r casgliad hwnnw wrth i fwy o adeilad y castell gael ei ddefnyddio unwaith eto.
"Hyd yn oed cyn i gysyniad Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru gael ei grybwyll, roeddem wedi bwriadu dod â hanes pwysig rhyngwladol Merthyr Tudful a chasgliad celf estynedig i sylw'r byd. Dyma ein bwriad o hyd.
"Y flwyddyn nesaf, gyda chefnogaeth Cyngor Merthyr Tudful, bydd celf yn dal i fod yn rhan bwysig o ddathlu blwyddyn daucanmlwyddiant Cyfarthfa.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, y Cynghorydd Geraint Thomas hefyd:
“Er ein bod yn hynod ddigalon na wnaed penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i fynd ati i nodi lleoliad ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol, ni fydd yn rhwystro ein cynlluniau. Mae Amgueddfa Castell Cyfarthfa yn brif atynfa ym Merthyr Tudful a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Sefydliad Cyfarthfa a phartneriaid eraill i sicrhau ei chynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol."