Camau nesaf i drawsnewid Castell a Pharc Cyfarthfa

June 1 2024

Yn dilyn cyhoeddi Cynllun Cyfarthfa yn 2021, mae aelodau bwrdd ac aelodau staff sydd wedi’u recriwtio gan Sefydliad Cyfarthfa wedi bod yn cymryd camau i ddod â’r cynlluniau’n fyw.

Cyfarthfa Castle with a blue sky and fluffy white clouds.jpg

Cyflwynodd Cynllun Cyfarthfa, weledigaeth strategol lefel uchel ar gyfer ardal Cyfarthfa. Tasg y Sefydliad nawr yw troi’r weledigaeth hon yn gynllun manwl sy’n ymateb i uchelgais mawr yr adroddiad, a sicrhau bod modd ei ariannu a’i fod yn gynaliadwy am genedlaethau i ddod.

Rydym wrthi’n datblygu cynlluniau cam wrth gam ac achos busnes cysylltiedig, gan flaenoriaethu’r gwaith o ailddatblygu’r castell.

Er bod llawer mwy o waith i’w wneud, ac arian i’w godi, mae’r Sefydliad wedi gwneud cynnydd da fel rhan o gam cyn datblygu’r prosiect. Mae’r tîm, sydd wedi tyfu’n fwrdd o 14 a 5 aelod o staff, yn angerddol am ddyfodol Cyfarthfa.

Gyda chymorth tîm bach o ymgynghorwyr, mae asesiad o Gynllun Cyfarthfa wedi’i gynnal ac erbyn hyn mae opsiynau cyflawnadwy yn cael eu creu a’u profi ac achosion busnes manwl yn cael eu datblygu.  

Fel rhan o’r cynllun uchelgeisiol hwn, mae’r Sefydliad wedi cyflwyno cynnig ysbrydoledig i Lywodraeth Cymru, a wahoddodd geisiadau am leoliadau i ddod yn safle angor ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol arfaethedig i Gymru. Byddai hyn yn adeiladu ar y casgliad presennol o gelfyddydau cain yng Nghyfarthfa sy’n rhychwantu gwaith mwy na dwy ganrif. Pe bai Cyfarthfa yn llwyddiannus, byddai prosiect yr Oriel Celf Gyfoes yn creu buddsoddiad diwylliannol mawr ym Merthyr Tudful ac yn ardal Blaenau’r Cymoedd.  

Mae Sefydliad Cyfarthfa wedi cynnal trafodaethau ag arianwyr posibl hefyd – gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a sefydliadau preifat.   

Fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r cynnig i ddod yn safle angor a chynlluniau ehangach Cyfarthfa, mae ymgysylltiad cymunedol wedi bod yn allweddol ar bob cam ac mae nifer o ymgyngoriadau cyhoeddus wedi’u cynnal a chyfleoedd wedi bod i’r gymuned leol roi eu hadborth.   

Gan fod y prosiect yn canolbwyntio ar y dyfodol, rhaid i genedlaethau iau gael eu hannog i chwarae rhan arweiniol yn y cynllun, ac mae’r Sefydliad wedi sefydlu prosiect addysg newydd i ymgysylltu ag ysgolion cynradd lleol. Gan weithio mewn partneriaeth â Merthyr’s Roots a’r Tîm Addysg yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, mae gweithdai addysgol yn cael eu darparu i ysgolion cynradd. Mae’r gweithdai hyn yn dangos sut y cafodd Cyfarthfa ei llywio gan bobl Merthyr a chan y byd naturiol, ac maent yn pwysleisio pwysigrwydd Cyfarthfa i Gymru a thu hwnt.  

Ar hyn o bryd, mae’r castell a’r parc yn cael eu rhedeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae Sefydliad Cyfarthfa wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r cyngor i ddatblygu’r prosiect, gan hyrwyddo’r angen i ddiogelu adeilad y Castell cyn gynted â phosibl i’w atal rhag dirywio ymhellach. 

Mae sawl sianel gyfathrebu arall wedi cael eu sefydlu hefyd gyda sefydliadau eraill sy’n weithgar yn y parc, gan gynnwys gweithgor addysg a fforwm y parc.  

Yn 2025, bydd Castell Cyfarthfa yn dathlu 200 o flynyddoedd, ac mae Sefydliad Cyfarthfa yn gweithio gyda phartneriaid i gyflwyno nifer o weithgareddau i ddathlu. Bydd y rhain yn taflu goleuni ar y rôl y chwaraeodd Cyfarthfa a chymunedau Merthyr wrth lywio’r byd modern. Mae ei hanes a’i threftadaeth o bwys cenedlaethol a rhyngwladol.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×