Mae Cadair Adrodd Straeon Enfawr unigryw wedi dod o hyd i'w chartref ym Mharc Cyfarthfa yn ystod blwyddyn y deucanmlwyddiant. Gan wasanaethu fel gwaith celf cyhoeddus parhaol a swyddogaethol, bydd yn ganolbwynt newydd cyffrous ar gyfer ymgysylltu â'r gymuned ac addysg ym Merthyr Tudful.
Dathlu Crefftwaith Lleol
Mae'r gadair enfawr yn 2.2 metr o uchder a 1.4 metr o led, ac mae'n cael ei gosod yn yr ardal goetir tawel y tu ôl i Gastell Cyfarthfa, fydd yn cynnig man unigryw i ymwelwyr eistedd, rhannu, gwrando a dysgu wedi'u hamgylchynu gan natur a hanes.
Gwnaed y strwythur trawiadol yn bosibl trwy gyllid gan Gyfeillion Parc Cyfarthfa, grŵp o wirfoddolwyr sy'n ymroddedig i sicrhau bod y parc, ei adeiladau a'r ardaloedd cyfagos yn darparu amgylchedd o safon y gall pob aelod o'r cyhoedd ei fwynhau.
Fe'i gwnaed yn ofalus â llaw yn Merthyr's Roots, sefydliad sydd wedi'i leoli yn Nhŷ Gwydr Cyfarthfa sy'n arbenigo mewn darparu profiadau dysgu pwrpasol ac ysbrydoledig yn seiliedig ar le, wedi'u seilio ar dreftadaeth naturiol gyfoethog Merthyr.
Cydweithiodd y ddau sefydliad yn agos â Sefydliad Cyfarthfa i ddod â'r weledigaeth ar gyfer y Gadair Adrodd Straeon yn fyw.
Digwyddiad Lansio
Bydd y cyhoedd yn cael eu cyfle cyntaf i fwynhau'r gadair yn ystod Llwybr Calan Gaeaf y parc ddydd Mercher, Hydref 29. I nodi'r dyfodiad, bydd cwmni theatr dychmygus a rhyngweithiol o Gymru, Flossy a Boo, yn cyflwyno gweithdai adrodd straeon am ddim, sy'n addas i'r teulu fel rhan o'r llwybr. Gwahoddir deiliaid tocynnau i helpu'r storïwyr i greu straeon ffantastig newydd sbon o hud a dirgelwch.
Dywedodd Anneleise Shepherd, Rheolwr Datblygu Cymunedol Sefydliad Cyfarthfa "Mae hon wedi bod yn ymdrech bartneriaeth, ac rydym yn hynod ddiolchgar i Gyfeillion Parc Cyfarthfa, Merthyr Roots a Tîm y Parciau am wireddu gweledigaeth wych y gadair adrodd straeon fel ychwanegiad priodol i'r parc i ddathlu pen-blwydd Cyfarthfa yn 200 oed.
Rydym yn llawn cyffro y bydd hyn yn darparu nodwedd gyffrous arall o fewn Cyfarthfa i'r cyhoedd ei mwynhau. Mae mentrau fel hyn yn cefnogi ein gwaith i ddatblygu Cyfarthfa fel atyniad diwylliannol o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol ac yn fodd o sicrhau adnewyddu cymdeithasol a strwythurol."
Dywedodd Marion Walker, Cadeirydd Cyfeillion Parc Cyfarthfa, "Mae codwyr arian Cyfeillion Parc Cyfarthfa yn falch o gefnogi'r fenter ardderchog hon ac yn edrych ymlaen at glywed y straeon niferus y bydd gan y gadair hon i’w hadrodd".
Annog Ymgysylltu Cymunedol a Diwylliannol
Mae creu'r gadair yn ategu gwaith Sefydliad Cyfarthfa sy'n cyflwyno rhaglen o weithgareddau ymgysylltu o fewn y gymuned i ddatblygu cyfleoedd hamdden newydd, rhaglenni addysg, fforymau cyhoeddus a digwyddiadau, hyn i gyd i ddathlu rôl Cyfarthfa wrth wraidd bywyd ym Merthyr Tudful. Mae gweithgareddau'r Sefydliad yn helpu i ysgogi ymwelwyr newydd a chynyddu ymgysylltiad â Cyfarthfa, drwy ddarparu cyfleoedd i bobl gysylltu ag asedau diwylliannol a threftadaeth Cyfarthfa.
Yn y tymor hir, bydd y gadair ar gael i'w mwynhau gan deuluoedd, ysgolion, a grwpiau cymunedol eraill. Mae cynlluniau i'r dyfodol yn cynnwys rhaglen reolaidd o weithdai a gweithgareddau tymhorol pwrpasol, ac ymgysylltu ag ysgolion lleol.
Mae Sefydliad Cyfarthfa bellach yn chwilio am bartneriaethau a chydweithwyr a hoffai gefnogi i greu rhaglen strwythuredig o weithgareddau sy'n gysylltiedig â'r gadair, ac mae'n gwahodd partïon â diddordeb i gysylltu drwy e-bost i info@cyfarthfafoundation.wales