Y Sefydliad yn penodi Prif Weithredwr ar gyfer datblygiad Castell Cyfarthfa

October 23 2024

Mae arbenigwraig flaenllaw ar y diwydiannau diwylliannol a chreadigol wedi ei phenodi i lywio datblygiad Castell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful fel prif atyniad i ymwelwyr.

Jess Mahoney.jpeg

Mae Jess Mahoney, a fagwyd ym Merthyr Tudful, wedi ei phenodi’n Brif Weithredwr Sefydliad Cyfarthfa, sefydliad elusennol sydd â’r nod o drawsnewid Castell a Pharc Cyfarthfa yn y dref.

Ar hyn o bryd, Jess yw Pennaeth Caerdydd Creadigol, sydd wedi’i leoli yn y Ganolfan i’r Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn flaenorol, roedd ganddi uwch rôl polisi yn Awdurdod Llundain Fwyaf, yn cyflawni rhaglen Parthau Menter Greadigol flaenllaw Maer Llundain. Cyn hynny, roedd hi’n Rheolwr Partneriaethau Busnes yn y Llyfrgell Brydeinig.  

Bydd hi’n cychwyn yn y swydd fis Ionawr nesaf, wrth i Gyfarthfa ddechrau dathlu ei ddeucanmlwyddiant.

Dywedodd Geraint Talfan Davies, Cadeirydd y Sefydliad: “Rydym yn falch iawn bod Jess Mahoney yn mynd i arwain y prosiect cyffrous hwn yn ei thref enedigol. Mae’n dod ag ystod eang o brofiad i’r dasg, gan gynnwys gwaith arloesol yn datblygu’r diwydiannau creadigol – gwaith sydd hefyd wedi cynnwys partneru ag awdurdodau lleol ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Bydd y profiad hwn yn werthfawr iawn wrth symud y prosiect trawsnewidiol hwn yn ei flaen.”

“Mae gan Jess hefyd ddealltwriaeth ddofn o le diwylliant a’r diwydiannau creadigol yn yr economi a chymdeithas, yn ogystal ag ymrwymiad i rôl ymgysylltu â’r gymuned,” meddai.

Dywedodd Jess Mahoney: “Fel unrhyw un sydd wedi ei fagu ym Merthyr, mae Castell a Pharc Cyfarthfa wastad wedi bod yn agos at fy nghalon. Felly, mae’n anrhydedd ac yn fraint i gael fy mhenodi’n Brif Weithredwr Sefydliad Cyfarthfa, ac i arwain y gwaith sylweddol ac uchelgeisiol o wireddu’r weledigaeth ar gyfer y safle.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda thîm y Sefydliad, y Bwrdd, Cyngor Merthyr Tudful a’r gymuned ehangach i adeiladu ar y cynnydd gwych sydd eisoes wedi’i wneud ac i ysgrifennu pennod newydd gyffrous yn hanes Cyfarthfa, gyda’n gilydd.”

Magwyd Jess Mahoney ym Merthyr Tudful ac roedd hi’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Pen-y-Dre. Aeth ymlaen wedyn i astudio ym Mhrifysgol Nottingham ac yna ym Mhrifysgol De Cymru. Mae hi hefyd wedi ymgymryd â rolau dysgu ac ymgysylltu gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd a’r Ysgol Bale Ganolog yn Llundain.

Mae’r penodiad yn dilyn cyhoeddi uwchgynllun ar gyfer ardal Cyfarthfa a baratowyd gan y penseiri Ian Ritchie Architects, sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, a’r cynllunwyr tirwedd blaenllaw, Gustafson, Porter and Bowman. Ariannwyd y cynllun hwn gan Gyngor Merthyr Tudful. Mae’r Sefydliad hefyd wedi derbyn grant o £1.2m gan Lywodraeth Cymru i ddechrau’r broses gynllunio, yn ogystal â chyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. 

Mae’r uwchgynllun 20 mlynedd ar gyfer Cyfarthfa yn cynnwys oriel gelf ac amgueddfa o safon ryngwladol wedi’u lleoli mewn parc cyhoeddus 100 hectar mwy o faint a fyddai’n gallu denu pum gwaith cymaint o ymwelwyr. Mae adnewyddu cymdeithasol ac ymgysylltu â’r gymuned yn ganolog i’r cynllun. 

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×