Datblygu Strategaeth Arwyddion, Dynodi Llwybrau a Brandio ar gyfer Parc Cyfarthfa

January 14 2025

Mae Sefydliad Cyfarthfa a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn edrych i ddatblygu Strategaeth Arwyddion, Dynodi Llwybrau a Brandio newydd ar gyfer Parc Cyfarthfa.

A signpost in Cyfarthfa surrounded by trees.jpg

Mae Parc Cyfarthfa yn Barc a Gardd Hanesyddol 200 mlwydd oed o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig, ac mae wedi’i gofrestru fel y cyfryw gan Cadw a’r Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd (ICOMOS). Mae’r Parc yn cynnwys gerddi Castell Cyfarthfa, sydd o bwys hanesyddol.

Mae Castell Cyfarthfa yn adeilad rhestredig Gradd I. Cafodd ei adeiladu mewn dwy ran: y castell gwreiddiol ym 1825 a, bron i ganrif yn ddiweddaraf, adeiladwyd adeiladau ysgol ar gyfer Ysgol Uwchradd Cyfarthfa ar ôl iddo gael ei drosglwyddo o berchnogaeth y teulu Crawshay i’r Cyngor. Mae llawr gwaelod y rhan sy’n dyddio o 1825 yn gartref i’r amgueddfa a’r oriel bresennol sy’n adrodd hanes diwydiannol Merthyr ac yn arddangos casgliad o fwy na 300 o weithiau celf gan amrywiaeth eang o artistiaid. Gadawodd Ysgol Uwchradd Cyfarthfa yr adeilad ddeng mlynedd yn ôl ac mae’r rhan hon wedi bod yn wag ers hynny.

Ym mis Hydref 2017, daeth mwy na 60 o arbenigwyr a sefydliadau cymunedol ynghyd i drafod syniadau ar gyfer safle Castell Cyfarthfa. Trefnwyd y digwyddiad gan Gomisiwn Dylunio Cymru, gyda chymorth Ysgol Bensaernïaeth Cymru, a chanlyniad y trafodaethau hynny oedd adroddiad ‘Y Pair’ a’r weledigaeth o greu canolfan genedlaethol ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol yng Nghyfarthfa. Cafodd yr adroddiad ei dderbyn yn unfrydol gan Gyngor Merthyr Tudful a gytunodd i gomisiynu cynllun meistr ar gyfer yr ardal. Nododd y cynllun meistr hwn, a luniwyd gan Ian Ritchie Architects, dros 70 o brosiectau posibl, gyda’r gwaith wedi’i rannu’n bedwar cam ar draws dau ddegawd. Yn ganolog i gynllun meistr Ian Ritchie roedd creu amgueddfa yn canolbwyntio ar bobl yng Nghyfarthfa, wedi’i lleoli mewn parc eithriadol 100 hectar, er budd y gymuned leol. 

Sefydlwyd Sefydliad Cyfarthfa i droi’r weledigaeth ar gyfer Cyfarthfa yn gynllun yr oedd modd ei gyflawni. Sefydliad elusennol ydyw a sefydlwyd ym mis Tachwedd 2020. Mae’r Sefydliad yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, y mae’r castell yn eiddo iddo ar hyn o bryd.

Yn 2021, cytunodd Llywodraeth Cymru i ariannu’r cam datblygu, ac felly dechreuwyd ar y gwaith o feithrin gwell dealltwriaeth o’r safle, a chomisiynwyd arolygon ac arfarniadau newydd.

Mae Parc Cyfarthfa yn barc pwysig, yn lleol ac yn rhanbarthol. Yn ogystal â chynnig cyd-destun hanesyddol pwysig i’r Castell, mae’r parc hefyd yn cynnig cyfleusterau mwy confensiynol a gysylltir yn aml â pharciau cyhoeddus.

Mae Sefydliad Cyfarthfa a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn edrych i ddatblygu Strategaeth Arwyddion, Dynodi Llwybrau a Brandio newydd ar gyfer Parc Cyfarthfa.

Rydym yn edrych nawr i benodi ymgynghorwyr i ddylunio datrysiad cyfeiriadu llawn er mwyn gwella arwyddion a dulliau cyfeiriadu yn y Parc. Bydd y datrysiad hwn yn datblygu gwaith sydd wedi’i wneud eisoes ac yn ymchwilio i’r potensial o uwchraddio’r arwyddion presennol.

Wrth fynd ati i ddatblygu’r strategaeth, dylid talu sylw penodol i’r canlynol:

  • Atgyfnerthu hunaniaeth Parc a Chastell Cyfarthfa fel endid unedig sy’n dathlu ei dreftadaeth.
  • Ymchwilio i’r potensial o addasu / uwchraddio arwyddion cyfeiriadol presennol i’w gwneud hi’n haws i bobl wybod pa ffordd i fynd.
  • Dynodi, dangos a hyrwyddo prif barthau, cyfleusterau, treftadaeth ac atyniadau’r parc mewn ffordd syml a hawdd ei deall.
  • Dylai’r dyluniad fod yn gynhwysol a dylai gynnig syniadau ynghylch sut y gellir cefnogi pobl ag anghenion mynediad ychwanegol. Dylai hefyd gydymffurfio’n llawn â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.
  • Dylai fod ymgais glir i gael gwared ar broblemau sy’n gysylltiedig â fandaliaeth, graffiti a gosod posteri’n anghyfreithlon, ac i fynd i’r afael â’r ymddygiad gwrthgymdeithasol hwn mewn ffordd arloesol a gweledol sensitif.
  • Polisi dwyieithog y Cyngor a sut y bydd hwn yn cael ei gynnwys yn y dyluniad.

Dylai tendrau wedi’u cwblhau gael eu dychwelyd drwy e-bost i info@cyfarthfafoundation.wales erbyn hanner dydd ar 28 Ionawr 2025.

Cliciwch yma am fwy o fanylion

 

Subscribe to our newsletter to keep up to date with all things Cyfarthfa.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×