Wedi newid y llwybr yn llwyddiannus y llynedd, bydd Hanner Marathon Merthyr yn dychwelyd i dir castell eiconig Cyfarthfa ddydd Sul 22 Mawrth.
Gall cefnogwyr yr hanner marathon fwynhau gweithgareddau ym Mharc a Chastell Cyfarthfa i ddathlu a chymeradwyo'r rhedwyr wrth iddynt basio drwy'r parc.
Bydd hyn yn cynnwys gweithgareddau crefft, canwr, côr a hwyl o bob math i'r teulu rhwng 9.30am a 11am. Bydd Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ar agor o 10am.
Disgwylir tua 750 o redwyr - llawer ohonynt yn codi arian hanfodol ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol - bydd eich cymeradwyaeth yn gwneud byd o wahaniaeth!
Bydd y llwybr yn achosi rhai newidiadau dros dro i'r llwybrau traffig arferol. Bydd ffyrdd ar gau ar Ffordd Cyfarthfa a Heol Aberhonddu rhwng 9.30am a 10.40am ac ni fydd mynediad i gerbydau i mewn nac allan o Barc Cyfarthfa rhwng 9.45am a 10.45am. Ni fydd parcio ar gael o flaen y castell – defnyddiwch y maes parcio wrth ymyl y Bothy.