Fel rhan o'r digwyddiadau a'r gweithgareddau i ddathlu Cyfarthfa200 – deucanmlwyddiant Castell Cyfarthfa – bydd llwybr Hanner Marathon Merthyr 2025 yn dod trwy Barc Cyfarthfa a heibio Castell Cyfarthfa.
Gall cefnogwyr a gwylwyr yr hanner marathon fwynhau gweithgareddau ym Mharc a Chastell Cyfarthfa i ddathlu a chodi hwyl y rhedwyr wrth iddynt fynd drwy'r parc ddydd Sul 16 Mawrth.
Bydd y gweithgareddau'n cynnwys crefftau a chwaraeon am ddim (gan gynnwys tenis a phêl-droed) i blant a theuluoedd, diodydd poeth am ddim ac adloniant. Bydd y rhain yn digwydd y tu allan i Gastell Cyfarthfa rhwng 9.30am a 11.30am. Mae'r gweithgareddau'n cael eu darparu gan Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa, Sefydliad Cyfarthfa, Clwb Rhedeg Merthyr, Heini Merthyr Tudful, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Ystafelloedd Te Julie yn y Castell, Halo Leisure, a Merthyr’s Roots.
Mae 2025 yn flwyddyn gyffrous i Hanner Marathon Merthyr, gan ei bod hefyd yn 10 mlynedd ers y ras gyntaf. Mae'r hanner marathon yn dechrau y tu allan i Goleg Merthyr am 10am cyn gwneud ei ffordd yn uniongyrchol i Gyfarthfa am lap o'r parc, ac yna'n parhau â'r llwybr arferol gan ddefnyddio Llwybr Trevithick a Thaith Taf. Mae disgwyl i redwyr fynd trwy Gyfarthfa rhwng 10.10am a 10.40am.
Disgwylir i'r ras ddenu tua 500 o redwyr, llawer ohonynt yn codi arian ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol.
Bydd y llwybr yn achosi rhai newidiadau dros dro i'r llwybrau traffig arferol. Bydd ffyrdd ar gau ar Heol Cyfarthfa a Heol Aberhonddu rhwng 9.30am a 10.40am ac ni fydd mynediad i gerbydau i mewn nac allan o Barc Cyfarthfa rhwng 9.45am a 10.45am.
Dywedodd Jess Mahoney, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Cyfarthfa: "Mae Hanner Marathon Merthyr yn ddigwyddiad allweddol yng nghalendr y dref. Mae'n wych y bydd y llwybr eleni yn dod â rhedwyr trwy Cyfarthfa i nodi pen-blwydd mawr y castell yn 200 oed. Byddem wrth ein bodd yn gwahodd y gymuned i ddod i ymuno â chefnogi'r rhedwyr wrth iddynt fynd trwy'r parc, a chymryd rhan yn ein rhaglen o weithgareddau addas i deuluoedd ar y diwrnod. Yn fwy na hynny, mae rhaglen gyfan o ddigwyddiadau cyffrous ac addysgiadol wedi'u cynllunio yn ystod y misoedd nesaf i ddathlu 200fed pen-blwydd Cyfarthfa. Edrychwch ar wefan Croeso Merthyr i gael gwybod mwy am y ffyrdd o ddymuno pen-blwydd hapus iawn i Gyfarthfa yn 2025."
Dywedodd Natalie Williams o Hanner Marathon Merthyr "Rydym yn llawn cyffro bod yr hanner marathon eleni yn cynnwys Cyfarthfa. Bydd hwn yn ychwanegiad gwych i'r llwybr, a bydd yn wych i'r rhedwyr basio ased treftadaeth mor wych ym Merthyr Tudful; gan ddathlu pen-blwydd y castell yn 200 oed a’r hanner marathon yn 10."