Cyfarthfa yn dathlu 200 mlynedd gyda hwb o £4.5 miliwn

July 3 2025

Wrth i Gastell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful ddathlu ei ben-blwydd yn 200 oed, mae rheswm arall i ddathlu - bydd Ardal Dreftadaeth eiconig Cyfarthfa yn cael £4.5 miliwn i ymgymryd â gwaith cadwraeth brys i helpu i sicrhau ei dyfodol am flynyddoedd lawer mwy i ddod.

Representatives from the Cyfarthfa Foundation and Merthyr Council with Jack Sargeant, Minister for Culture, Skills and Social Partnership.jpg

Bydd Llywodraeth Cymru - drwy ei gwasanaeth amgylchedd hanesyddol, Cadw - a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cyfrannu £2.25 miliwn yr un i fynd i'r afael â'r dirywiad i ran hynaf Castell Cyfarthfa yn ogystal â gwarchod pont Pont-y-Cafnau, sydd wedi'i lleoli i'r de o safle ehangach Cyfarthfa - y bont reilffordd haearn hynaf yn y byd.

 Yn sefyll ers 1825, adeiladwyd Castell Cyfarthfa yn wreiddiol fel cartref teuluol mawreddog y meistr haearn William Crawshay II, ac mae'n parhau i ddal lle unigryw yn hanes Cymru a byd-eang hyd heddiw.

Ynghyd â gweithfeydd haearn eraill Merthyr - Dowlais, Penydarren a Plymouth - Cyfarthfa a wnaeth Ferthyr y ganolfan gwneud haearn fwyaf y byd rhwng 1800 a 1860. Mae Ardal Treftadaeth Ddiwydiannol Cyfarthfa yn cynnwys rhai o asedau etifeddiaeth pwysicaf Cymru, gan gynnwys y castell, gwaith haearn a phont Pont-y-Cafnau.

Mae'r castell yn gartref i amgueddfeydd ac orielau celf uchel eu parch, gan gymryd dim ond 20% o'r adeilad. Mae'r ddau yn cynnwys casgliadau hanesyddol a chyfoes pwysig, llawer ohonynt yn cael eu rhannu'n genedlaethol. Mae'r 80% arall, a oedd unwaith yn gartref i Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, ar gau i'r cyhoedd.

Bydd Sefydliad Cyfarthfa - elusen a sefydlwyd i hyrwyddo datblygiad hirdymor Cyfarthfa, gyda'r nod o adfer yr adeilad, ehangu arddangosfeydd amgueddfeydd ac orielau celf, a datblygu'r parc 160 o erwau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol - yn gweithio mewn partneriaeth â'r Cyngor i fwrw ymlaen â'r prosiectau hyn.

Nod y cyllid, a gwaith y Cyngor a'r Sefydliad, hefyd yw rhoi hwb i'r nifer o ymwelwyr sy'n dod i’r castell, y gerddi a'r llyn, yn mwynhau'r cyfleusterau chwarae ac yn cymryd rhan yn y gweithgareddau amrywiol a gynigir ar draws y tir.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Sgiliau, Jack Sargeant:

"Mae Castell Cyfarthfa yn sefyll fel darn enfawr o dreftadaeth Gymreig, sy'n adrodd hanes ein gorffennol diwydiannol a'n taith ddiwylliannol. Wrth inni ddathlu ei ben-blwydd yn 200 oed, mae'n wych gallu cyhoeddi'r buddsoddiad hwn o £4.5 miliwn i helpu i ddiogelu ei ddyfodol.

"Mae'r cyllid hwn yn cynrychioli ein hymrwymiad i warchod trysorau ein cenedl wrth sicrhau eu bod yn parhau i fod yn fannau bywiog, hygyrch i gymunedau ac ymwelwyr fel ei gilydd. Drwy bartneru â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar y gwaith adfywio hanfodol hwn, nid yn unig yr ydym yn atgyweirio adeilad – rydym yn buddsoddi yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, yn rhoi hwb i dwristiaeth, a chreu cyfleoedd i bobl gysylltu â'n hanes cyfoethog ar gyfer cenedlaethau i ddod."

Bydd ystod eang o ddigwyddiadau yn nodi'r deucanmlwyddiant y penwythnos hwn [dydd Sadwrn a dydd Sul 5-6 Gorffennaf] gyda dau ddiwrnod o weithgareddau sy'n dathlu ei hanes cyfoethog a'i gymuned fywiog. Bydd y rhain yn cynnwys mynediad am ddim i'r amgueddfa a'r oriel gelf, rhaglen o sgyrsiau ar orffennol y castell yn ogystal â'r cynlluniau ar gyfer ei ddyfodol. Hefyd, bydd sesiynau adrodd straeon, stiwdio bortreadau Fictoraidd, teithiau cerdded a llwybrau natur a marchnad gyda chynnyrch a chrefftau gan fasnachwyr lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Brent Carter, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful:

"Mae ailddatblygu Castell Cyfarthfa yn flaenoriaeth i'r Cyngor a bydd yn cael ei gyflawni fesul cam dros nifer o flynyddoedd.  Bydd y cyllid a sicrhawyd gan Lywodraeth Cymru a'r Cyngor yn cael effaith sylweddol ar alluogi gwaith cadwraeth hanfodol, gan warchod ased gwerthfawr, ac un o drysorau pwysicaf Merthyr. 

"Mae Castell Cyfarthfa yn lle arbennig i lawer o bobl ledled Merthyr Tudful, ac yn seiliedig ar adborth gan drigolion, gwyddom fod hwn hefyd yn brosiect o flaenoriaeth iddyn nhw. Aeth llawer o bobl i'r ysgol yno, gan gynnwys fi, ac mae'n dal llawer o atgofion gwych, felly mae'n wych gweld y cynlluniau hyn yn dechrau dod i ffrwyth."

Dywedodd Prif Weithredwr Sefydliad Cyfarthfa, Jess Mahoney:

"Mae'r buddsoddiad hwn yng Nghyfarthfa yn newyddion gwych ar adeg allweddol i'r castell a'r parc wrth iddo ddathlu ei ddeucanmlwyddiant, gan nodi 200 mlynedd yng nghanol bywyd ym Merthyr Tudful.

"Bydd y cyllid hanfodol hwn yn galluogi gwaith cadwraeth hanfodol i ddigwydd, gan gadw ased gwerthfawr - unig adeilad rhestredig Gradd 1 Merthyr - ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd hefyd yn helpu i osod y sylfaen ar gyfer gwireddu ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y safle.

"Bydd Sefydliad Cyfarthfa, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, yn gweithio i geisio cyllid pellach er mwyn hyrwyddo datblygiad Cyfarthfa fel injan adnewyddu cymdeithasol a strwythurol i'r dref a'r rhanbarth ehangach. Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i werth treftadaeth yng Nghymru a'i chefnogaeth i'r rôl bwysig y mae Cyfarthfa yn ei chwarae i gymunedau, i dwristiaeth ac wrth adrodd stori fyd-eang Cymru."

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a chael y wybodaeth ddiweddaraf am Gyfarthfa.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×