Cyllid trawsnewid diwylliannol ar gyfer Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa

May 5 2023

Mae Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cyhoeddi y bydd rhai o hoff amgueddfeydd a llyfrgelloedd Cymru yn cael eu trawsnewid ar ôl i Lywodraeth Cymru ddyfarnu swm o £1.7 miliwn.

People gathered looking at painting of flowers.jpg

Nod y Rhaglen Gyfalaf Trawsnewid Diwylliannol yw galluogi llyfrgelloedd cyhoeddus, amgueddfeydd lleol a gwasanaethau archifau i drawsnewid y ffordd y maent yn darparu gwasanaethau, i foderneiddio’u cyfleusterau, i greu modelau darparu mwy cynaliadwy, i alluogi cydweithio ar ddarparu gwasanaethau ac i wella’r hyn sy’n cael ei gynnig i bobl a chymunedau.  

Ers 2017, pan gafodd y rhaglen ei hestyn i gynnwys amgueddfeydd ac archifau, mae dros £9 miliwn wedi’i ddarparu ar gyfer sefydliadau ledled Cymru, gan helpu i drawsnewid y gwasanaethau hanfodol hyn. Mae’r buddsoddiad hwn, y mae mawr ei angen, yn helpu i foderneiddio cyfleusterau, i greu modelau darparu mwy cynaliadwy, i hyrwyddo cydweithio ar ddarparu gwasanaethau ac i wella’r hyn sy’n cael ei gynnig i bobl a chymunedau. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar wella mynediad, gweithio mewn partneriaeth, datgarboneiddio, a datblygu gwasanaethau mwy cynaliadwy.  

Cymeradwyodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, gyllid gwerth £146,00 ar gyfer Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, ym Merthyr Tudful. Bydd y swm hwn yn ariannu man storio oddi ar y safle, fydd â’r cyfarpar angenrheidiol ar gyfer adleoli storfa gelf yr amgueddfa ac a fydd yn cynnig gwell mynediad i’r casgliad i’r cyhoedd.   

Dysgwch fwy yma: https://www.llyw.cymru/llywodraeth-cymru-yn-buddsoddi-17-miliwn-i-drawsnewid-amgueddfeydd-llyfrgelloedd-yng-nghymru 

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a chael y wybodaeth ddiweddaraf am Gyfarthfa.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×