Nadolig ym Mharc Cyfarthfa

October 30 2025

Gwisgwch yn gynnes am noson hudol o garolau, mins peis a hwyl yr ŵyl!

A giant sequoia tree lit up with fairy lights at night time with Cyfarthfa Castle in the background..jpg

Dydd Mawrth 18 Tachwedd, 5pm-8pm

Ymunwch â ni o dan y goleuadau fydd yn disgleirio ar goeden secwoia enwog Cyfarthfa am ddathliad Nadolig i ddod â blwyddyn y deucanmlwyddiant i ben.

Bydd gwledd o gerddoriaeth fyw a rhai pethau eraill annisgwyl sy’n siŵr o godi’ch hwyliau! Bydd bwyd a diod tymhorol blasus ar gael i’w prynu.

Mae lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch eich lle AM ​​DDIM heddiw.

Mae’r gweithgaredd wedi bod yn bosibl diolch i arian gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, trwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a chael y wybodaeth ddiweddaraf am Gyfarthfa.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×