Hanes

Hanes

"Y gorffennol - offeryn i adeiladu dyfodol"

Children wearing school red and black school uniform.jpg

Mae Merthyr Tudful yn dref sydd wedi mynnu ei lle yn llyfrau hanes Cymru a’r byd – yn ganolfan newidiadau arloesol ym myd technoleg, diwydiant, gwleidyddiaeth, cymdeithas a’r amgylchedd. Mae ei hanes mor gyfoethog nes haeddu ailddarlleniad modern yn ei holl amrywiaeth. Mae ei themâu a’i straeon yn siarad â’r presennol ac yn dal gwersi ar gyfer y dyfodol. Hanes a all ysbrydoli ail-eni cymuned.

Yng nghalon Merthyr Tudful mae creiriau dramatig ffwrneisi a adeiladwyd chwarter mileniwm yn ôl, ynghyd â Chastell Cyfarthfa a adeiladwyd ar ran y meistr haearn William Crawshay II ym 1825, a’i barc 160 erw, sy’n un o’r gemau disylw yng nghoron y dref. Yn 2025, bydd y castell yn dathlu ei ddaucanmlwyddiant.

Steel with wording 'Crawshay Bros, Bessemer Mild Steel'.jpg

Heddiw mae’n rhaid i gastell a gwaith haearn Crawshay sefyll dros weithfeydd a meistri haearn eraill Merthyr Tudful – y Guests yn Nowlais, yr Homfrays ym Mhenydarren ac Anthony Bacon yng ngweithfeydd Plymouth. Gyda’i gilydd, ac ynghyd â gweithfeydd haearn eraill pwysig mewn cymoedd cyfagos, fe wthion nhw Gymru a Phrydain i gymryd eu lle mewn economi ddiwydiannol fyd-eang ddatblygol.

Model of iron worker.jpg

Ar eu hanterth, gweithfeydd haearn Merthyr Tudful – Cyfarthfa, Dowlais, Plymouth a Phenydarren – oedd y crynhoad mwyaf o weithfeydd cynhyrchu haearn yn y byd. Darparodd y cymunedau o bobl a oedd yn gweithio yma ynnau mawr ar gyfer llynges Nelson yn ogystal â haearn ar gyfer y rheilffyrdd newydd ar draws Ewrop. Darparodd eu gweithwyr sgiliau a lansiodd weithfeydd haearn eraill yn Rwsia, Ffrainc ac America hefyd.

Hoffem ddathlu Cyfarthfa drwy greu yma nid gwelliant cosmetig ond yn hytrach sefydliad cenedlaethol newydd – amgueddfa ac oriel fodern i goffáu’r gorffennol, mynd i’r afael â’r presennol ac edrych tua’r dyfodol – y cyfan wedi’i osod mewn parcdir eang o ansawdd uchel.

Mater o ddathlu ein hanes a’n treftadaeth a’n celf fydd hyn. Bydd yn ymwneud â gwella’r amgylchedd naturiol, ac ehangu’r hyn y mae’r parc yn ei gynnig. Bydd yn llwyfan i greadigrwydd, ymgysylltu â’r gymuned ac adnewyddu cymdeithasol. Ac ym mhopeth a wna, y nod fydd bod yn esiampl ryngwladol.

Gentleman looking at art

'Gwaith Dur Cyfarthfa fin nos’ gan Thomas Prytherch - rhan o gasgliad Amgueddfa ac Orielau Celf Castell Cyfarthfa.

Cyfarthfa heddiw

Mae Castell Cyfarthfa yn adeilad rhestredig Gradd I. Fe’i hadeiladwyd yn ddwy ran: y castell gwreiddiol yn 1825 a, bron i ganrif yn ddiweddarach, adeiladau ysgol a godwyd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cyfarthfa yn dilyn trosglwyddo perchnogaeth y safle oddi wrth y teulu Crawshay i’r Cyngor.

Gadawodd yr ysgol yr adeilad yn 2014 ac mae’r rhan yma wedi bod yn wag byth ers hynny. Mae’r elfennau wedi achosi cryn ddifrod. Mae angen ymyriadau ar frys.

Ar lawr gwaelod y rhan o’r castell a adeiladwyd ym 1825 mae’r amgueddfa a’r oriel bresennol yn cynnwys arddangosfeydd yn cyfleu hanes diwydiannol Merthyr, yn ogystal a mwy na 300 o weithiau gan ystod eang o artistiaid. Gall Cyfarthfa dyfu i fod yn un o orielau amlycaf Cymru.

Room with peeling walls and damaged floor.jpg

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×