Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Y Sefydliad

Sefydliad elusennol a grëwyd ar gyfer yr unig ddiben o wireddu cynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu Castell a Pharc Cyfarthfa ym Merthyr Tudful yn amgueddfa ac oriel o ansawdd rhyngwladol, mewn parc godidog.

Creu elusen annibynnol yw’r unig ffordd ymarferol o gasglu’r cyllid angenrheidiol – o ffynonellau llywodraethol, cenedlaethol, busnes ac elusennol. Bydd y Sefydliad yn canolbwyntio’n llwyr ar ddatblygu Cyfarthfa ac asedau treftadaeth eraill ym Merthyr er mwyn sicrhau’r manteision gorau posibl i’r gymuned – yn economaidd, addysgol, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.

Sefydliad elusennol yw’r strwythur mwyaf cyffredin a fabwysiedir gan gyrff mawr yn y sector diwylliannol – amgueddfeydd, orielau a sefydliadau celfyddydol eraill – megis Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Ie, hwn oedd Cynllun Cyfarthfa a gafodd ei baratoi gan dîm rhyngwladol dan arweiniad penseiri Ian Ritchie a phenseiri tirwedd, Gustafson, Porter a Bowman. Cafodd ei lansio ym mis Ionawr 2021, yn ystod cyfnod cyfyngiadau symud Covid. Roedd yn cyflwyno gweledigaeth lefel uchel o 20 mlynedd ar gyfer ardal Cyfarthfa. Tasg y Sefydliad nawr yw troi’r weledigaeth hon yn gynllun manwl. 

Mae llawer o waith cynllunio i’w wneud, a chodi arian. Bydd hyn yn cymryd nifer o flynyddoedd. Rhaid i ni fod yn realistig ac ymateb i’r hinsawdd economaidd a gwleidyddol cenedlaethol a rhyngwladol. Mae Bwrdd y Sefydliad a thîm bach eisoes ar waith. Mae astudiaethau manwl yn cael eu cynnal hefyd i benderfynu'n union beth sydd angen ei wneud.

1.     i achub adeiladwaith y castell sydd mewn cyflwr gwael iawn
2.     i gynllunio arddangosfeydd newydd i adrodd stori bwerus Merthyr
3.     i ehangu’r orielau celf
4.     i wella ac ehangu’r parc 160 erw
5.     i gynnwys y gymuned yn llawn yn y broses.

Rydym eisoes yn cyflwyno’r achos dros fuddsoddi i Lywodraeth Cymru, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a rhoddwyr eraill.  

Mae’n hanfodol fod y prosiect hwn yn cael ei gyflawni gyda chyfranogiad agos a gweithredol y gymuned leol. Roedd yr uwchgynllun yn cynnwys llawer o syniadau a gafodd eu dylunio i wneud pobl Merthyr Tudful a rhanbarth y cymoedd yn ganolog yn y prosiect – er mwyn sicrhau y bydd o’r lle, nid dim ond ar gyfer y lle. Mae’r Sefydliad wedi ymrwymo’n llwyr i wireddu hynny o’r cychwyn cyntaf. Wrth i brosiectau ddatblygu, byddwn ni’n sicrhau bod cyfleoedd i drafod a datblygu cyn gwneud penderfyniadau.

Credwn y gallai’r cynllun sicrhau miliynau o bunnoedd mewn gwerth cymdeithasol ac economaidd bob blwyddyn, drwy wariant uniongyrchol, gwariant anuniongyrchol a gwariant a gymhellir, a thrwy gymryd rhan mewn rhaglennu cyhoeddus. Bydd hyn yn digwydd ar ffurf swyddi newydd, cymorth i fusnesau bach, a mwy o wariant yn yr economi leol o ganlyniad i gynnydd mewn twristiaeth. Bydd elfennau cymdeithasol hefyd: er enghraifft, bydd ystod ehangach o raglennu yn helpu i ddod â chymunedau ynghyd, i sicrhau bod pobl yn egnïol ac i fynd i’r afael ag ynysu cymdeithasol.  

Amcangyfrifwyd y byddai datblygu Castell Cyfarthfa yn amgueddfa fodern o ansawdd rhyngwladol, yn ogystal ag adfer ffwrneisi Cyfarthfa, yn costio tua £50m i ddechrau. Byddwn yn gweithio ar fireinio’r costau hyn. Fodd bynnag, camarweiniol fyddai rhoi un ffigur ar y gost oherwydd bydd yn dibynnu ar ba elfennau sy’n cael eu blaenoriaethu a thros ba gyfnod y cânt eu gwireddu.

Mae’r rhaglen ddatblygu 20 mlynedd yn darparu fframwaith ar gyfer buddsoddiadau o sawl ffynhonnell yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Bydd cefnogaeth gynnar Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn hollbwysig, ond byddwn hefyd yn edrych ar noddwyr, dyngarwyr, ymddiriedolaethau a sefydliadau eraill.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu £1.2m i ariannu’r gwaith paratoi cychwynnol, yn ogystal â grant pellach i archwilio pa rôl y gallai Cyfarthfa ei chwarae mewn Oriel Celfyddyd Gyfoes Genedlaethol ar gyfer Cymru gyfan. Mae hefyd wedi ariannu Astudiaeth Archifau i ganfod adnoddau perthnasol mewn archifau ledled y DU.

Dylai cynllun strategol cryf, a gaiff ei greu gan yr arbenigedd orau sydd ar gael, roi’r hyder angenrheidiol i gyllidwyr fuddsoddi. Un o flaenoriaethau cyntaf y bwrdd fydd penodi codwyr arian proffesiynol, ac amlinellu strategaeth gadarn ar gyfer codi arian. Mae’r Sefydliad eisoes wedi derbyn dwy addewid sylweddol iawn o gefnogaeth gan sefydliadau elusennol.

Nage. Mae’n rhaid gwneud rhywbeth. Ni all Merthyr a Chymru fforddio gweld dirywiad pellach yn yr adeiladwaith hanesyddol arbennig a fu’n ganolog i hanes ein gwlad. Mae’n rhaid gwneud rhywbeth neu fe allwn golli rhannau arwyddocaol ac arbennig o’n treftadaeth genedlaethol. Yn hytrach, bydd y cynllun hwn yn rhoi bywyd newydd ynddynt mewn ffordd a fydd yn sicrhau manteision cymdeithasol ac economaidd gwirioneddol.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn parhau i reoli Cyfarthfa nes bod y Sefydliad yn barod i ddod yn gwbl gyfrifol am Gastell a Pharc Cyfarthfa.  Mae trosglwyddo perchnogaeth yn golygu proses gyfreithiol gymhleth ac mae’n rhaid cael cyllid cyn i’r trosglwyddiad ddod i rym. Rydym wedi sefydlu pwyllgor cyswllt sy’n sicrhau bod yna gydweithio agos rhwng Sefydliad Cyfarthfa a’r Cyngor.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×