Eleni, bydd Cyfarthfa yn nodi dechrau cyfnod y Nadolig trwy oleuo coeden sequoia enfawr, ddydd Sadwrn 21 Tachwedd. Gall ymwelwyr hefyd edrych ymlaen at y Ffair Nadolig wych yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa sy'n cynnwys amrywiaeth wych o stondinau yn cynnig anrhegion unigryw wedi'u gwneud â llaw, crefftau Nadoligaidd a danteithion lleol dros y penwythnos.
Mae'n addo bod yn achlysur gwych i fwynhau hwyl y tymor a mwynhau siopa Nadolig cynnar yn un o'r nifer o ddigwyddiadau cyffrous a gynhelir ar draws Parc Cyfarthfa drwy gydol y flwyddyn. Mae 2026 wedi bod yn flwyddyn fywiog arall yn Nghyfarthfa, gan ddod â'r gymuned at ei gilydd drwy raglen amrywiol o ddigwyddiadau, gan gynnwys y Sinema Awyr Agored, Teithiau Ysbrydion, dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, llwybrau Pasg a Chalan Gaeaf, Hanner Marathon Merthyr Tudful, darlithoedd ysbrydoledig, gweithdai creadigol, teithiau cerdded ystlumod, picnics cymunedol a llawer rhagor.
Yn dilyn llwyddiant sioe oleuadau ysblennydd y llynedd ar gyfer deucanmlwyddiant Cyfarthfa, ni fydd digwyddiad tebyg yn cael ei gynnal eleni oherwydd y gwaith adfer sylweddol sy'n mynd rhagddo yng Nghastell Cyfarthfa ar hyn o bryd.
Mae'r penderfyniad yn adlewyrchu'r rhaglen adeiladu barhaus a'r heriau ariannol a logistaidd o gyflwyno digwyddiad cyhoeddus ar raddfa fawr. Yn ogystal, mae cyllid a oedd ar gael yn flaenorol trwy Gronfa Ffyniant a Rennir y DU bellach wedi dod i ben, gan gynyddu'r anhawster o gyflwyno digwyddiad o'r maint hwn. Fodd bynnag, mae cynllunio ar y gweill ar gyfer rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd yn 2027, gyda'r gobaith y gall digwyddiad Nadoligaidd ddychwelyd yn y dyfodol, gan adeiladu ar gynnydd y prosiect adfer a chyfleoedd cyllido yn y dyfodol.
Yn y cyfamser, mae digon i'w ddathlu o hyd! Rydym yn falch o barhau i ddarparu cyfleoedd i'r gymuned ddod at ynghyd ac mae Cyfarthfa yn cynnig amrywiaeth wych o weithgareddau Nadoligaidd y Nadolig hwn, gan gynnwys gwneud torchau a dychweliad blwch llythyrau Siôn Corn. Gallwch hefyd fwynhau darn o gacen a choffi tymhorol o'r fwydlen hydrefol yn Ystafell De Julie, yna galw heibio Siop Anrhegion yr Amgueddfa i ddod o hyd i'r anrheg berffaith i rywun arbennig.
Er mwyn helpu ymwelwyr i fwynhau'r awyrgylch hudolus ac edmygu'r goeden sequoia wedi'i goleuo, bydd oriau agor y parc hefyd yn cael eu hymestyn drwy gydol cyfnod y Nadolig. Bydd Parc Cyfarthfa ar agor i'r cyhoedd tan 6pm o ddydd Sadwrn 21 Tachwedd 2026 tan ddydd Llun 4 Ionawr 2027.
Dod o hyd i ragor yma:
Beth Sydd Ymlaen | Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa
Beth sydd ymlaen | Sefydliad Cyfarthfa Foundation