Mae Sefydliad Cyfarthfa yn chwilio am Drefnydd / Curadur Arddangosfa Llawrydd
Cefndir
Adeilad rhestredig gradd I yw Castell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful. Mae dwy ran iddo: y castell gwreiddiol ym 1825 a bron i ganrif yn ddiweddarach, adeiladau ysgol a adeiladwyd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cyfarthfa ar ôl trosglwyddo perchnogaeth o deulu Crawshay i’r Cyngor. Ers i’r ysgol adael yr adeilad yn 2014, mae’r rhan hon wedi bod yn wag. Ym 1910, datblygwyd y castell yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa a hyd heddiw ceir yno arteffactau sy’n gysylltiedig â gorffennol Merthyr Tudful - yn amrywio o gasgliad celf unigryw i chwisl ager gyntaf y byd. Mae’r Amgueddfa a’r Oriel Gelf - a’u parc 16 erw - ar agor i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn a gall ymwelwyr fwynhau rhaglen flynyddol o deithiau cerdded, sgyrsiau, gweithdai ac arddangosfeydd neu archwilio’r Amgueddfa, sy’n dyst i ysbryd y gweithiwr, ysbryd Merthyr a’r stori sy’n gwneud Merthyr mor bwysig yn hanes Cymru a Phrydain a’r byd ehangach.
Yn 2020, datgelwyd ‘Cynllun Cyfarthfa’. Cyflwynodd hwn weledigaeth 20 mlynedd strategol lefel uchel ar gyfer ardal Cyfarthfa a’r cyffiniau. Blaenoriaeth allweddol Sefydliad Cyfarthfa bellach yw cymryd y syniadau a gyflwynwyd yng Nghynllun Cyfarthfa a hyrwyddo datblygiad prosiect cychwynnol manwl y gellir ei ariannu.
Yn 2025, bydd Castell Cyfarthfa yn dathlu ei ddeucanmlwyddiant. Ochr yn ochr â phartneriaid eraill gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, mae’r Sefydliad yn trefnu nifer o ddigwyddiadau dathlu i amlygu ei hanes a’i dreftadaeth, ei bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol fel y ganolfan bwysicaf o gynhyrchu haearn yn y byd ar un adeg, a hanes aml-ffased y bobl a’r gymuned a wnaeth ei greu.
Ym mis Ionawr 2025, bydd Sefydliad Cyfarthfa yn cynnal arddangosfa hunangynhwysol ar raddfa fach yng nghanol yr Oriel Felen yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa. Bydd yr arddangosfa hon yn ymddangos ochr yn ochr â chasgliad presennol yr Amgueddfa a’r Oriel Gelf. Bydd angen iddi hefyd gyd-fynd â mentrau cydweithredol helaeth eraill yr amgueddfa gydag artistiaid, ysgolion a chymunedau sy’n cael eu rhannu drwy gydol y flwyddyn gan gynnwys y rhai yn y dathliad o’r deucanmlwyddiant.
Nod yr arddangosfa hon yw myfyrio ar swyddogaeth ysbrydoledig pobl Cyfarthfa a Merthyr Tudful a’i heffaith ar Gymru a thu hwnt; i amlygu pwysigrwydd cenedlaethol dyfodol Parc a Chastell Cyfarthfa a’r gwaith sy’n cael ei wneud i hyrwyddo eu datblygiad a’u hadferiad.
Y Swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda thîm y Sefydliad i greu’r arddangosfa.
Mae hyn yn cynnwys;
- Ymgysylltu â’r gymuned i gasglu cynnwys
- Curadu cynnwys i alluogi’r rhai sy’n ymweld i archwilio pwysigrwydd datblygiad Cyfarthfa yn y dyfodol a’r gwaith sy’n cael ei wneud i’w adfer, gan wneud defnydd o ffilm VR o’r safle sydd gennym ar gael
- Arwain ar naratif yr arddangosfa a chreu cynnwys ysgrifenedig
- Cynllunio cynllun ffisegol a rheoli cyllideb
- Gweithio gyda thîm y Sefydliad ar unrhyw waith adeiladu neu ofynion cyflawni eraill gan sicrhau cyflwyniad o ansawdd uchel, yn unol â pholisi arddangosfeydd Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa. Dylai hyn gynnwys rhywbeth a all aros yng nghyntedd yr amgueddfa ar ôl yr arddangosfa.
- Cynorthwyo’r gwaith o osod yr arddangosfa
- Gweithio’n agos gyda’r Amgueddfa a’r Oriel Gelf wrth greu a darparu’r arddangosfa
- Cynorthwyo gyda digwyddiad lansio
Mae gennym ddiddordeb mewn ymgeiswyr sy’n gallu gweithio o fis Hydref 2024 tan fis Ionawr 2025.
Dylai fod gan ymgeiswyr hanes profedig o weithio ar ddatblygu, cynhyrchu neu reoli prosiect arddangosfeydd o ansawdd uchel â sgiliau rheoli cyllideb, gwaith tîm, cynllunio a threfnu da.
Ffi: £5,000 (gan gynnwys TAW). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ei gyfraniadau Treth ac Yswiriant Gwladol ei hun. Mae cyllideb ychwanegol ar gael ar gyfer cynhyrchu.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am reoli ei lwyth gwaith a’i amserlen ei hun i fodloni terfynau amser allweddol. Rydym yn rhagweld gofyniad o’r hyn sy’n cyfateb i 20 diwrnod o waith ar gyfradd o £250 y dydd.
I ymgeisio, anfonwch CV ynghyd â llythyr eglurhaol yn nodi manylion eich sgiliau a’ch profiad ar gyfer y swydd i info@cyfarthfafoundation.wales erbyn Dydd Sul 20 Mis Hydref 2024. Os bydd fformatau eraill yn fwy hwylus i chi, gallwch gyflwyno fideo neu ffeil sain.
Os hoffech drafodaeth anffurfiol am y cyfle, cysylltwch â Gemma Durham, Cyfarwyddwr Brand ac Ymgysylltu, yn gdurham@cyfarthfafoundation.wales