Penodi Cyfarwyddwr Prosiect i ddatblygu Castell Cyfarthfa

September 2 2022

Mae pensaer a rheolwr prosiect sydd ar hyn o bryd yn cwblhau prosiect treftadaeth £9m yng Nghaerfaddon, ac sydd wedi cwblhau prosiectau sylweddol eraill yn Llundain a Monaco, wedi ei phenodi i arwain datblygiad Castell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful fel atyniad twristaidd o bwys cenedlaethol.

anna-baker.jpg

Mae Anna Baker, sydd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Prosiect Ymddiriedolaeth Pyllau Cleveland yng Nghaerfaddon, wedi ei hapwyntio yn Gyfarwyddwr Prosiect ar Sefydliad Cyfarthfa, y sefydliad elusennol a sefydlwyd i gyflawni prosiect Cyfarthfa. Bydd yn cychwyn yn ddiweddarach yn y mis.

Dwedodd Geraint Talfan Davies, Cadeirydd y Sefydliad: “Rydym yn falch iawn i allu gwneud y penodiad yn dilyn proses hynod gystadleuol. Mae Anna yn meddu ar sgiliau trefnu a chynllunio uchel, yn ogystal ag ymwybyddiaeth fasnachol, ond hefyd ddealltwriaeth o bwysigrwydd  ymglymiad y gymdeithas leol i wneud Cynllun Cyfarthfa yn llwyddiant.”

Nododd Anna Baker: “Yr hyn a ddenodd fi at y swydd oedd cyfle i ddweud stori treftadaeth creiddiol Merthyr Tudful, er budd y dref. Mae gan Sefydliad Cyfarthfa gynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu amgueddfa, tirlun ac oriel o bwys cenedlaethol, o fewn cyd-destun ehangach y Cymoedd. Mae’n brosiect hynod gyffrous yr ydw i’n edrych ymlaen ei arwain.”

Dwedodd Cyng. Geraint Thomas, Arweinydd Cyngor Merthyr Tudful: “Mae hwn yn foment bwysig i’r prosiect arbennig hwn. Bydd profiad sylweddol Anna Baker yn y maes yn gaffaeliad mawr. Rwy'n siwr bydd ganddi gefnogaeth llawn y Cyngor a’r gymuned wrth wireddu y weledigaeth am ddyfodol Cyfarthfa. 

Astudiodd Anna, sy’n dod o Glasgow, bensaernïaeth ym Mhrifysgol Dundee a Phrifysgol y South Bank yn Llundain. Am y tair blynedd ddiwethaf bu’n arwain gwaith atgyweirio pwll nofio awyr agored hynaf y DU - a adeiladwyd ym 1815 yng Nghaerfaddon - gyda chymorth grant £6.4m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Historic England a’r awdurdod lleol.

“Yr hyn yr ydw i wedi ei fwynhau yn arbennig am brosiect Pyllau Cleveland yw gyrru'r prosiect yn ei flaen ymhellach na’r bwriad gwreiddiol, gan ei ddatblygu o brosiect treftadaeth i gynllun sy’n ymglymu gyda diwylliant, lles, natur ac ynni cynaliadwy. Mae'r rhain yn rhai o’r elfennau sy’n gwneud Prosiect Cyfarthfa yn gymaint o her,” meddai.

“Mewn prosiectau fel hyn, mae ymglymiad lleol a mewnbwn gwirfoddolwyr yn hynod bwysig,” ychwanegodd.

Cyn gweithio yng Nghaerfaddon, bu Anna yn rheolwr ar brosiectau datblygiad mawr i siop Harrods yn Llundain, adeiladu a gosod pafiliwn rhyngweithiol i Samsung ym Monaco, ac adeiladu cerflun symudol - Y Berllan Symudol - er mwyn codi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol ac fel canolbwynt i Ŵyl Dinas Llundain.

Mae’r apwyntiad yn dilyn cyhoeddi'r cynlluniau ar gyfer ardal Cyfarthfa a baratowyd gan y penseiri o bwys rhyngwladol, Ian Ritchie Architects, a’r cynllunwyr tirlun nodedig, Gustafson, Porter a Bowman, a derbyn  £1.2m o arian grant gan Lywodraeth Cymru er mwyn cychwyn y broses gynllunio.   

Mae’r cynllun 20-mlynedd yn rhagweld sefydlu amgueddfa ac oriel o bwys rhyngwladol mewn parc cyhoeddus 100-hectar ar draws y cwm, gyda’r gallu i groesawu bron i hanner miliwn o ymwelwyr y flwyddyn. Mae adfywiad cymdeithasol ac ymglymiad cymunedol yn greiddiol iddo. Cyllidwyd y cynllun gwreiddiol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a chael y wybodaeth ddiweddaraf am Gyfarthfa.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×