Gwisgwch yn gynnes am noson hudol o garolau, mins peis a hwyl yr ŵyl!
Dydd Mawrth 18 Tachwedd, 5pm-8pm
Ymunwch â ni o dan y goleuadau fydd yn disgleirio ar goeden secwoia enwog Cyfarthfa am ddathliad Nadolig i ddod â blwyddyn y deucanmlwyddiant i ben.
Bydd gwledd o gerddoriaeth fyw a rhai pethau eraill annisgwyl sy’n siŵr o godi’ch hwyliau! Bydd bwyd a diod tymhorol blasus ar gael i’w prynu.
Mae lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch eich lle AM DDIM heddiw.
Mae’r gweithgaredd wedi bod yn bosibl diolch i arian gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, trwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.