Map â Darluniau Newydd o Barc a Chastell Cyfarthfa

July 3 2025

I ddathlu deucanmlwyddiant Cyfarthfa, mae Sefydliad Cyfarthfa wedi gweithio gyda'r darlunydd adnabyddus o dde Cymru, Jack Skivens, i greu map â darluniau newydd o Barc a Chastell Cyfarthfa.

An illustrative map of a Cyfarthfa Park including the castle, buildings and wildlife..jpg

Mae'r map yn deyrnged fywiog a manwl i uchafbwyntiau diwylliannol a hamdden y safle hanesyddol hwn.

Mae'r darluniad yn crisialu hanfod Cyfarthfa mewn ffordd chwareus sy’n addas ar gyfer y teulu i gyd ac sydd wedi'i gynllunio i gefnogi gweithgareddau newydd ar draws y safle, er enghraifft Llwybr y Pasg yn ddiweddar a gafodd ei drefnu gan Sefydliad Cyfarthfa y daeth dros 300 o bobl iddo. Mae'r map yn tynnu sylw at gastell eiconig Cyfarthfa, ehangder iraidd y parc, ac amrywiaeth eang y planhigion, coed a bywyd gwyllt sy'n ffynnu yno, gan gynnwys conwydd mawreddog, llwyni blodeuog, adar, a chreaduriaid y goedwig, gan ddod â'r amgylchedd naturiol yn fyw.

Mae’r gwaith celf, a gomisiynwyd fel dathliad gweledol o ben-blwydd Cyfarthfa yn 200 oed, yn pwysleisio arwyddocâd y castell a'r parc fel symbol o dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal ac fel man cymunedol pwysig. Mae'n tynnu sylw at asedau ac atyniadau allweddol gan gynnwys y rheilffordd fach, y tai gwydr, Oriel Bothy, Caffi’r Ganolfan a Sba Rose Retreat. Mae hefyd yn arddangos nodweddion eiconig y parc ac eitemau dynodi llwybr lleol fel cerfluniau pren, anifeiliaid helyg, y ffynnon, a'r bandstand.

Mae'r gwaith celf yn arddangos arddull nodweddiadol a dawn artistig Jack, sy'n adnabyddus am ei fanylion cymhleth, ei ddawn adrodd straeon fyw a'i allu i ddefnyddio gwybodaeth leol.

Dywedodd Jess Mahoney, Prif Weithredwr Sefydliad Cyfarthfa:

'Rydyn ni wedi bod wrth ein bodd yn gweithio gyda Jack i greu'r map newydd hyfryd hwn o'r safle yn ei 200fed flwyddyn. Mae'r darlun yn dangos graddfa lawn y parc ac amrywiaeth ei asedau a'i atyniadau amrywiol. Felly, bydd yn annog ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd i archwilio Cyfarthfa yn drwyadl gan werthfawrogi'r trysorau hanesyddol, naturiol a diwylliannol sy'n gwneud y safle yn dirnod unigryw yn ne Cymru. Ni allwn aros i ddechrau rhannu'r map gwych hwn gyda'n cymuned. Cofiwch ymweld â’n sianeli cymdeithasol hefyd ar gyfer rhifynnau tymhorol arbennig o'r map yn y dyfodol a fydd yn ein helpu i ddathlu Cyfarthfa drwy gydol y flwyddyn'.

I gael cerdyn post o'r darlun, ewch i stondin Sefydliad Cyfarthfa o flaen y castell yn ystod Penwythnos y Pen-blwydd (5 a 6 Gorffennaf).

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a chael y wybodaeth ddiweddaraf am Gyfarthfa.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×