Arddangosfa sy’n dathlu treftadaeth, presennol a dyfodol trawsnewidiol Parc a Chastell Cyfarthfa.

February 20 2025

Mae Sefydliad Cyfarthfa wedi agor ei arddangosfa, Cyfarthfa: Y Gorffennol. Y Presennol. Y Dyfodol., yn Amgueddfa ac Oriel Cyfarthfa y mis Ionawr hwn.

Mae’r arddangosfa yn cyflwyno naratif sy’n dangos siwrnai hanes cyfoethog Cyfarthfa - ei gwreiddiau, ei hanes diweddar, yr hyn a welir heddiw a dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Woman in black jacket stood next to model of Cyfarthfa Castle on a white podium.jpg

O’r sylfeini daearegol a lywiodd y chwyldro diwydiannol i’w rôl fel cartref, ysgol, a chanolfan ddiwylliannol dros y ddwy ganrif ddiwethaf, bydd ymwelwyr yn archwilio effaith fyd-eang diwydiant haearn Merthyr Tudful, bywydau bob dydd y rhai sydd â chysylltiad â’r Castell, ac atgofion a rennir o ddiwrnodau ysgol, gwyliau a digwyddiadau sydd wedi’u cynnal yn y parc, sydd wedi cadarnhau ei le yng nghalon y gymuned.

Mae’r arddangosfa hefyd yn dangos y cynlluniau adfer sy’n cael ei hyrwyddo gan Sefydliad Cyfarthfa, sy’n cyfuno cadwraeth hanesyddol â chreadigrwydd trawiadol.

Mae Sefydliad Cyfarthfa yn sefydliad elusennol sy’n hyrwyddo’r weledigaeth o drawsnewid Parc a Chastell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful – tarddle’r chwyldro diwydiannol – yn ganolfan ddiwylliannol ac atyniad ymwelwyr o safon ryngwladol ac yn gyfrwng ar gyfer adnewyddu cymdeithasol.

Diolch i gefnogaeth y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol De Cymru, mae’r arddangosfa yn cynnwys sgan 360 gradd arbennig o ardaloedd mewnol y castell sydd ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd.

Gall gwesteion fwynhau gwaith celf cyfoes sy’n ymateb i’r newidiadau cyffrous sydd i ddod, gan gynnwys gwaith celf newydd wedi’i gomisiynu gan Amanda Turner, artist o Dde Cymru a addysgwyd yng Nghastell Cyfarthfa pan gafodd ei ddefnyddio fel ysgol.

Yn 2025, mae Castell Cyfarthfa yn dathlu ei ddeucanmlwyddiant, ac mae’r arddangosfa yn rhan o Cyfarthfa200; blwyddyn lawn o ddathliadau.

Mae arddangosfa’r Sefydliad yn cyd-fynd hefyd â phenodiad ei Brif Weithredwr newydd, Jess Mahoney. Cafodd Jess ei magu ym Merthyr Tudful ac mae hi wedi gweithio’n flaenorol fel Pennaeth Caerdydd Creadigol, sydd wedi’i leoli yn y Ganolfan i’r Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Meddai Jess Mahoney, “Rwy’n falch iawn o fod yn ymuno â Sefydliad Cyfarthfa ar yr adeg gyffrous iawn hon i arwain y gwaith o wireddu gweledigaeth arwyddocaol ac uchelgeisiol ar gyfer Parc a Chastell Cyfarthfa. Mae’r arddangosfa hon yn gychwyn addas iawn i flwyddyn ei ddeucanmlwyddiant: mae’n gyfle amserol i edrych yn ôl a dathlu hanes ysbrydoledig Merthyr Tudful, sy’n arwyddocaol yn fyd-eang, dros y ddwy ganrif ddiwethaf, ac yn foment i nodi pwysigrwydd buddsoddi nawr yn y dyheadau sydd gennym ar gyfer Cyfarthfa, a’r gwaith sydd eisoes ar y gweill i hyrwyddo ei ddatblygiad a’i adferiad.”

Roedd Dr Emmajane Mantle, Uwch Ddarlithydd yn yr Amgylchedd Adeiledig ym Mhrifysgol De Cymru, yn rhan o dîm y Brifysgol a fu’n gyfrifol am roi nifer o ddarnau o gynnwys gweledol at ei gilydd ar gyfer yr arddangosfa, gan gynnwys llwybr cerdded realiti rhithwir a chyfrifiadurol o’r ysgol.

“Roedd hi’n wych bod yn rhan o’r prosiect hwn a defnyddio ein harbenigedd i ddod â’r safle’n fyw eto – doedden nhw ddim yn gallu coelio, dwi ddim yn credu, pa mor gyffrous oedden ni,” dywedodd Dr Mantle.

“Roedd hi’n her enfawr o’r cychwyn oherwydd aethon ni ati i gyfuno cannoedd o ffotograffau i greu’r llwybr cerdded, cyn gwneud sgan laser 3D gyda chydweithiwr, Nathan Thomas, a fu’n gyfrifol hefyd am hedfan drôn a chreu argraffiad 3D o’r castell. Fe ddefnyddiodd dronau hefyd i gael hyd yn oed mwy o gynnwys i’w ddefnyddio yn yr arddangosiad. Gwnaethon ni hyd yn oed cynhyrchu model 3D o’r sganiau a wnaethom.

“Roedd gallu defnyddio’r arbenigedd sydd ar gael yn y Brifysgol ar y math hwn o brosiect yn brofiad gwych, ac rwy’n falch bod y dechnoleg fodern hon yn gallu rhoi dealltwriaeth i bobl o’r ffordd yr oedd y byd yn edrych dwy ganrif yn ôl.”

Mae’r arddangosfa wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth gan Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Prifysgol De Cymru, Merthyr’s Roots ac arian gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Bydd Cyfarthfa: Y Gorffennol. Y Presennol. Y Dyfodol. ar agor o 21 Ionawr i 31 Mawrth 2025. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa a digwyddiadau eraill sy’n rhan o ddathliadau Cyfarthfa200 yma.

Subscribe to our newsletter to keep up to date with all things Cyfarthfa.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×