Diwrnod llawn hwyl yn cynnwys byd natur, creadigrwydd, straeon ac antur ym Mharc Cyfarthfa — perffaith i deuluoedd.
Dydd Mercher 1 Ebrill 2026, 10yb - 4pmyp
Parc Cyfarthfa, Heol Aberhonddu, Merthyr Tudful, CF47 8RE
Byddwch yn barod am antur enfawr dros y Pasg y bydd y teulu cyfan yn dwlu arno! Ewch am antur yn y parc gyda danteithion, crefftau, a phethau annisgwyl o'n Gorsafoedd Wyau cyffrous ar hyd y llwybr.
Neidiwch o weithgaredd i weithgaredd a mwynhewch:
- Creu bomiau blodau lliwgar
- Chwarae'r her wyau Beth Ddaeth Gyntaf?
- Addurno wyau decoupage
- Helpu Bracken y Bwni ar lwybr Geogelcio i’r teulu
- Cyfarfod Ffion y Dylwythen Deg wrth y Gadair Adrodd Straeon Anferth
- Mynd ar y trên bach a gwylio adar
... a llawer mwy o bethau annisgwyl ar hyd y ffordd!
Dilynwch eich map Dig-ŵy-ddiad Anhygoel, dewch o hyd i’r gorsafoedd sydd wedi'u cuddio ar hyd y parc, a llenwch eich blwch wyau gyda hud y Pasg ar hyd y ffordd.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ond codir tâl am fynediad i oedolion i’r amgueddfa a theithiau trên.
Mae'r digwyddiad hwn mewn partneriaeth a Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, Merthyr's Roots, Cymdeithas Naturiaethwyr Merthyr Tudful a'r Cylch, Oriel Bothy Gallery, Halo Leisure, Ysgolion Bro, Ymddiriedolaeth Natur Gwent, RCT People First, Rheilffordd Fach Cyfarthfa a Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Ni fydd parcio ar gael o flaen y castell – defnyddiwch y maes parcio wrth ymyl y Bothy. Os gallwch chi, dewch heb y car a neidio draw i Gyfarthfa...
Gwanwyn Gwych y Bothy
Dilynir y digwyddiad gan 'Gwanwyn Gwych y Bothy' rhwng 5pm a 7pm.
Darnau newydd gwych o gelf gan artistiaid lleol yn cael eu harddangos, gyda cherddoriaeth, lluniaeth a thamaid i’w fwyta.