Adroddiad yn annog buddsoddiad o £50m mewn canolfan dreftadaeth ddiwydiannol genedlaethol i Ferthyr Tudful

by Author name

May 9 2018

Dylid datblygu Castell Cyfarthfa Merthyr Tudful, ei barc a'r cyffiniau fel canolfan dreftadaeth ddiwydiannol o bwysigrwydd rhyngwladol, yn unol â'i le mewn hanes, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (Mercher 9 Mai) gan Gomisiwn Dylunio Cymru.

A white document with Crucible written on the front of the castle which is out of focus.jpg

Mae'r adroddiad yn dilyn 'ymarferiad pennu gweledigaeth' y llynedd a ddaeth â dros 60 o arbenigwyr creadigol at ei gilydd – yn benseiri, penseiri tirlun, cynllunwyr, artistiaid ac arbenigwyr treftadaeth ac amgueddfeydd, yn ogystal â grwpiau cymunedol lleol – i werthuso’r potensial i adfywio Cyfarthfa.

Trefnwyd y digwyddiad gan Gomisiwn Dylunio Cymru ac Ysgol Pensaernïaeth Cymru, gyda chefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr, Ymddiriedolaeth Treftadaeth Merthyr a Chylch Dylunio Cymdeithas Frenhinol Penseiri Cymru yn ne Cymru.

Yn ôl yr adroddiad, mae angen buddsoddi yng Nghastell Cyfarthfa ac ar yr ystâd i'r dwyrain a'r gorllewin o Afon Taf ar raddfa sy'n cydnabod ei bwysigrwydd hanesyddol yn genedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal â'i botensial i weithredu fel prosiect o bwys ar gyfer Parc Rhanbarthol y Cymoedd.

Arferai gweithfeydd haearn Cyfarthfa, ynghyd â thri gwaith arall yn y dref - Dowlais, Penydarren a Plymouth - gyflogi miloedd o bobl ac arweiniodd hyn at economi diwydiannol byd-eang yng Nghymru, wedi’i nodweddu gan fuddsoddiad mewn syniadau, technolegau a thechnegau newydd, gan wneud enw Merthyr Tudful ar ddiwedd y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif yn gyfystyr ag arloesi.
 

Mae'r adroddiad yn rhagweld

  • buddsoddiad o £50m o leiaf dros y degawd nesaf i ddatblygu canolfan ddehongli fodern a fyddai'n tynnu sylw at statws Merthyr Tudful fel y ganolfan fwyaf yn y byd a gynhyrchai haearn yn y 18fed a'r 19eg ganrif;
  • atyniad i ymwelwyr sy'n gallu cynyddu'r 60,000+ o ymwelwyr blynyddol presennol i'r castell bedair gwaith drwy gyfuno naratif hanesyddol o ansawdd uchel ac arddangosfa weledol, gan ddefnyddio'r technolegau diweddaraf a CGI i greu arddangosfeydd ymdrochol;

  • cynllun datblygu tirwedd o ansawdd uchel i uwchraddio tir presennol Parc Cyfarthfa a'r ardal i'r gorllewin o Afon Taf sy'n ymestyn o ffwrneisi hanesyddol Crawshay i draphont Cefn Coed-y-Cymer – gan roi lle agored i Ferthyr a allai gael ei ddefnyddio fel lleoliad pwysig ar gyfer digwyddiadau awyr agored;

  • cystadleuaeth bensaernïol ar gyfer dylunio amgueddfa/canolfan arddangos newydd gerllaw'r castell;

  • mabwysiadu'r safonau uchaf o ran adeiladu a dylunio tirwedd, curadu, adrodd straeon, arddangos a chomisiynu celf gyhoeddus;

  • creu fframwaith blynyddol o ddigwyddiadau cyhoeddus a fyddai'n manteisio ar leoliad Merthyr Tudful ar gyffordd ffyrdd yr A470 a’r A465.

  • bydd y datblygiad yn gosod y safon, gan ymestyn y gwerthoedd a'r egwyddorion sydd wrth wraidd y cynllun i ddatblygu gweddill Merthyr a thu hwnt.
     

Caiff y cynigion eu cyflwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, cyrff treftadaeth a rhanddeiliaid eraill mewn cyfarfod arbennig yn Redhouse Cymru, Merthyr Tudful (dydd Mercher 9 Mai).

Yn ôl y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu'r Cyhoedd: "Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno gweledigaeth fentrus iawn ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol Merthyr sy'n gweddu i'n lle yn hanes Cymru ac o'r chwyldro diwydiannol yn gyffredinol. Mae'n dangos lefel o uchelgais ar gyfer Merthyr Tudful a threftadaeth holl gymoedd y de ac rwy'n siŵr y bydd y Cyngor a'r gymuned gyfan yn ymateb yn gadarnhaol. Mae hwn yn brosiect o bwysigrwydd cenedlaethol ac rydym yn gweithio tuag at ei wireddu ochr yn ochr ag amrywiaeth o sefydliadau ariannu, gan gynnwys Llywodraeth Cymru."

Meddai Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru, Alun Davies AC: "Mae'r adroddiad hwn yn dangos yr hyn sy'n bosibl trwy gymryd agwedd feiddgar a dychmygus tuag at ein hanes a'n hasedau treftadaeth. Mae'r adroddiadau'n gosod achos pwerus dros gael atyniad i ymwelwyr a allai drawsnewid delwedd ac economi'r dref a bod yn ychwanegiad pwerus i ddiwydiant twristiaeth Cymru. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i weld beth y gellir ei wneud i wireddu'r uchelgeisiau hyn".

Meddai Geraint Talfan Davies, ymgynghorydd prosiect Comisiwn Dylunio Cymru: "Mae gan Ferthyr Tudful adnoddau pwerus ar gyfer y lle a balchder yn ei hanes. Y prif ysgogiad gan bawb a gymerodd ran yn yr ymarferiad hwn oedd codi delwedd y dref i'r byd heddiw i safle sy'n wirioneddol gymesur â'i phwysigrwydd rhyngwladol yn ein hanes diwydiannol, cymdeithasol a gwleidyddol. Gobeithio y bydd y cynigion hyn yn helpu Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Llywodraeth Cymru a'r gymuned gyfan i bontio'r bwlch hwnnw a chyflawni'r trawsnewidiad y mae Merthyr Tudful wedi aros amdano'n rhy hir.

“Mae cyfraniad Comisiwn Dylunio Cymru wedi bod yn nodweddiadol. Ansawdd yw’r gair allweddol. Y neges glir a ddaeth o'r diwrnod syniadau oedd hwn, 'Beth bynnag wnewch chi, ceisiwch sicrhau ei fod y gorau yn y byd.'"

Yn ôl yr adroddiad gallai'r datblygiad hefyd olygu bod y dref yn sefydlu ei hun fel cyrchfan y gellid ei gymharu â llefydd tebyg yn Ewrop – yn safle o bwys gyda gwell cydbwysedd rhwng ei arfordir a'i gefn wlad. Ymhen amser gallai hefyd ddod yn estyniad o safle Treftadaeth y Byd ym Mlaenafon.

Mae hefyd yn dadlau y byddai datblygiad ar y raddfa hon yn amserol, gan ymateb i ddatblygiadau polisi ehangach fel cynigion diweddar Tasglu'r Cymoedd ar gyfer parc tirwedd y Cymoedd, datblygiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, datblygu strategaethau twristiaeth a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a chael y wybodaeth ddiweddaraf am Gyfarthfa.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×