Murlun Newydd Lliwgar sy’n Dathlu Dwy Ganrif o Gyfarthfa

July 16 2025

I ddathlu pen-blwydd Castell Cyfarthfa yn 200 oed, mae Sefydliad Cyfarthfa wedi ymuno â’r seren celf stryd leol Tee2Sugars i greu murlun newydd lliwgar sy’n dathlu dwy ganrif o hanes, treftadaeth a balchder cymunedol.

Artist Tee2Sugars stood in front of a colourful mural of Cyfarthfa Castle and large flora and wildlife.jpg

Mae’r murlun, sydd wedi’i gomisiynu gan y Sefydliad fel rhan o ddathliadau Cyfarthfa200 ac sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Siopa Sant Tudful yng nghanol tref Merthyr Tudful, yn cyfleu enaid Merthyr - ei harddwch naturiol, ei chryfder diwydiannol, ei hysbryd cymunedol a’r creadigrwydd sy’n rhan mor allweddol ohoni.  

Mae’r murlun yn cynnwys darluniau trawiadol o Gastell Cyfarthfa, bywyd gwyllt a blodau, gyda chyfeiriadau lliwgar at gacen a chanhwyllau i ddathlu ei ben-blwydd yn 200 oed.

Dywedodd Jess Mahoney, Prif Weithredwr Sefydliad Cyfarthfa:

“Un o’n nodau yn y Sefydliad ar gyfer deucanmlwyddiant Cyfarthfa oedd dathlu’r rôl ganolog mae’r castell a’r parc wedi’i chwarae yng nghymuned Merthyr ers 200 o flynyddoedd. Roedden ni eisiau gwneud rhywbeth beiddgar ac amlwg a fyddai’n codi proffil Cyfarthfa ac yn dechrau sgwrs am hanes a threftadaeth y safle, a’i botensial yn y dyfodol. Mae’r murlun anhygoel hwn – sydd wedi’i leoli mewn lle amlwg yng nghanol y dref – yn sicr yn gwireddu’r nod hwn, ac rydyn ni wedi bod wrth ein boddau yn gweithio gyda’r hynod dalentog Tee2Sugars i ddod â’n gweledigaeth yn fyw.

“Mae ymateb arbennig y gymuned wedi bod yn galonogol iawn. Mae cynnwys sy’n dangos y darn gorffenedig wedi cael ei weld dros filiwn o weithiau, ac rydyn ni eisoes wedi gweld cerddi yn cael eu hysgrifennu am Gyfarthfa, cyplau yn ail-greu lluniau o’u priodas yng Nghastell Cyfarthfa â’r murlun yn y cefndir, grwpiau o bobl ifanc yn ymgynnull i dynnu hun-luniau, a thrafodaethau am bartneriaethau newydd posibl. Mae hyn yn dyst i’r rôl hollbwysig y gall gwaith celf cyhoeddus ei chwarae wrth ddod â’r gymuned ynghyd a chodi ymwybyddiaeth, a byddwn ni’n adeiladu ar hyn wrth i ni barhau i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Merthyr Tudful a thrigolion y dref i ddatblygu prosiect Cyfarthfa.”

Wedi’i adeiladu ym 1825 fel cartref teuluol mawreddog i’r Meistr Haearn William Crawshay II, Castell Cyfarthfa yw’r em yng nghoron Merthyr Tudful. Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn mwynhau ymweld â’r castell a’i erddi helaeth, y llyn, yr ardal chwarae a chyfleusterau eraill.

Yn ystod 2025, mae Cyfarthfa200, rhaglen helaeth o arddangosfeydd a digwyddiadau difyr, cyffrous ac addysgiadol, yn cael ei chynnal i dynnu sylw at bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol safle Cyfarthfa, ac i ddathlu hanes y bobl a’r cymunedau a’i wnaeth. Gallwch chi gael gwybod am yr hyn fydd yn digwydd yn Visit Merthyr.

Diolch yn fawr iawn i Tee2Sugars, y gymuned a phawb sydd wedi rhannu straeon a lluniau hyd yn hyn! Rydyn ni wrth ein boddau yn gweld eich lluniau felly cariwch ymlaen i rannu a thagio @cyfarthfafoundation

I ddysgu mwy am Tee2Sugars a’i waith, dilynwch @tee2sugars ar y cyfryngau cymdeithasol.

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a chael y wybodaeth ddiweddaraf am Gyfarthfa.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×