Mae marcwyr Cyfarthfa200 yn helpu i ddangos y ffordd i Barc a Chastell Cyfarthfa

May 28 2025

Yn 2025, mae Castell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful, Cymru yn dathlu ei ddeucanmlwyddiant.

A fair coloured dog walking next to a blue Cyfarthfa200 logo printed on the road.jpg

Yn ystod 2025, cynhelir Cyfarthfa200, rhaglen swmpus o ddigwyddiadau a gweithgareddau i dynnu sylw at bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol safle Cyfarthfa, ac i ddathlu hanes y bobl a'r cymunedau a luniodd y safle.

Fel rhan o ddathliad Cyfarthfa200, mae'r Tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus yng Nghyngor Merthyr Tudful wedi creu marcwyr defnyddiol i helpu i ddangos y ffordd i Barc a Chastell Cyfarthfa.

Mae'r marcwyr C200 yn mynd o’r safleoedd canlynol;

·        Canolfan Hamdden Merthyr Tudful ac ar hyd Taith Taf

·        Gorsaf fysiau Merthyr Tudful trwy ganolfan siopa Santes Tudful

·        Parc Manwerthu Cyfarthfa

Os ydych chi'n ceisio dod o hyd i weithgaredd, yn ymweld â'r amgueddfa neu dim ond eisiau mynd am dro yn y parc hyfryd, dilynwch y marcwyr sy'n dangos y ffordd i chi.

Mae mis Mai hefyd yn Fis Cerdded Cenedlaethol, felly dyma'r amser perffaith i gerdded neu olwynio i'r awyr agored a mwynhau'r pleserau wrth i chi gysylltu â natur!

Adeiladwyd Castell Cyfarthfa ym 1825 fel cartref teuluol mawreddog i'r Meistr Haearn, William Crawshay II a dyma brif drysor Merthyr Tudful. Ymunwch â'r miloedd o bobl sydd bob blwyddyn yn mwynhau ymweld â'r castell a'i erddi eang, y llyn, yr ardal chwarae a gweithgareddau eraill.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am holl ddigwyddiadau dathlu Cyfarthfa200 ar wefan Croeso Merthyr yma. Edrychwch ar y wefan yn rheolaidd gan y bydd mwy fyth o ddigwyddiadau yn cael eu hychwanegu trwy gydol y flwyddyn.

Mae Cyfarthfa200 wedi'i gydlynu a'i ddarparu gan Sefydliad Cyfarthfa a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac wedi ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae'r marcwyr wedi bod yn bosibl diolch i Grant Gwella Mynediad Llywodraeth Cymru.

Subscribe to our newsletter to keep up to date with all things Cyfarthfa.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×