Barod am ddiwrnod llawn bwganod a hwyl i'r teulu ym Mharc Cyfarthfa?

Dros Galan Gaeaf, bydd y parc yn fwrlwm o swynion, straeon a syrpreis arswydus rownd pob cornel. Beth am ddilyn y llwybr gan gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau llawn hwyl?
- Cymysgu eich cyfareddau eich hun
- Dod o hyd i sgerbydau yn y tai gwydr
- Rhoi cynnig ar greu bisgedi pren a chrefft concers
- Adeiladu ffau ffiaidd yn y goedwig
- Dilyn y llwybr pwmpenni
- Mynd ar daith trên ysbrydion (os ydych chi'n ddigon dewr!)
- Dod ynghyd ar gyfer sesiynau adrodd straeon ofnadwy o dda
- Ymunwch â'n Teithiau Geogelcio Bwganllyd i’r Teulu i ddatgelu cyfrinachau cudd y parc!
A mwy...
Mae gwisg ffansi yn anghenraid - croeso i wrachod, bwganod, ysbrydion ac ellyllon!
Casglwch eich cerdyn llwybr o'r man gwybodaeth y tu allan i'r castell.
Trefnwch eich lle AM DDIM
*Codir tâl bach am weithdy'r amgueddfa a'r reilffordd fach.