Castell Cyfarthfa yn Ailagor yn Dilyn Cyllid i Wella Profiad Ymwelwyr

March 5 2026

Ar ôl bod ar gau am gyfnod byr, mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa wedi ailagor yn dilyn gwaith mewnol i’r adeilad.

Cyfarthfa Castle with scaffolding around the main entrance.jpg

Yn ddiweddar, derbyniodd Parc a Chastell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful gyfran o gyllid Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru i wella profiad ymwelwyr, drwy Croeso Cymru. Mae nifer o welliannau allweddol wedi’u gwneud gyda’r grant cyfalaf, gan wella’r profiad i’r rhai sy’n ymweld â Pharc a Chastell Cyfarthfa. 

O fewn Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa, mae’r rhain wedi cynnwys gwelliannau mewnol i oleuadau a thoiledau; gwelliannau i’r dderbynfa, y siop a’r caffi; uwchraddio’r Wi-Fi a theledu cylch cyfyng; ac arddangosfa sinema glyweledol newydd.  

O fewn y Parc, bydd y cyllid yn golygu bod modd gosod gwell arwyddion a dynodwyr llwybrau ar draws tiroedd Parc Cyfarthfa, gan helpu ymwelwyr i ddod o hyd i’r ffordd o gwmpas yn haws. Mae hefyd wedi cefnogi ystod o seilwaith newydd ac wedi’i uwchraddio, gan gynnwys meinciau a biniau o ansawdd uchel sy’n gwneud y safle yn lanach, yn fwy cyfforddus, ac yn fwy hygyrch i bawb. Trwy fuddsoddi yn y cyfleusterau hanfodol hyn, mae’r cyllid yn creu amgylchedd mwy croesawgar sy’n annog ymwelwyr i aros yn hirach, mwynhau’r amgylchoedd, a gwneud defnydd llawn o gyfleusterau’r parc.

Yn ogystal â gwella’r llif ymwelwyr a’r mwynhad y maen ymwelwyr yn ei gael, mae’r gwelliannau hyn hefyd yn cyfrannu at gyrchfan fwy cynaliadwy sy’n cael ei chadw’n dda ar gyfer y dyfodol.

Mae’r cyllid wedi’i ddyfarnu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful sy’n gweithio mewn partneriaeth â Sefydliad Cyfarthfa; y sefydliad sy’n gyfrifol am hyrwyddo’r weledigaeth hirdymor ar gyfer Parc a Chastell Cyfarthfa. Mae cyllid Y Pethau Pwysig wedi sicrhau bod modd gwneud rhai gwelliannau i’r profiad y mae ymwelwyr yn ei gael, tra bod y gwaith tymor hwy i ddatblygu Cyfarthfa fel cyrchfan allweddol o arwyddocâd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i dwristiaid a pheiriant adnewyddu cymdeithasol yn parhau. 

Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad y llynedd bod Ardal Dreftadaeth eiconig Cyfarthfa wedi derbyn £4.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful hefyd i ymgymryd â gwaith cadwraeth brys sy’n mynd rhagddo’n allanol. 

Mae’r Cyngor a’r Sefydliad hefyd yn archwilio cyfleoedd cyllido pellach gan gynnwys cyflwyno cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, parhau i wneud yr achos dros fuddsoddi i Lywodraeth Cymru, a chysylltu ag ymddiriedolaethau a rhoddwyr eraill.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Brent Carter:  “Nid adeilad yn unig mohono – Castell Cyfarthfa yw curiad calon treftadaeth gyfoethog Merthyr Tudful. Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn fwy nag arian yn unig; mae’n ymrwymiad i warchod hanes byw ein cymuned. Rydym yn gwneud mwy nag adfer castell, rydym yn ail-danio’r straeon a’r atgofion sydd bwysicaf i’n pobl. Er ein bod yn gwybod bod gwaith o’n blaenau o hyd, mae ein partneriaeth â Sefydliad Cyfarthfa yn dangos ein hymroddiad diwyro i drawsnewid y trysor hwn yn ein coron yn dirnod bywiog ac ysbrydoledig y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn ei drysori.”

Ychwanegodd Jess Mahoney, Prif Weithredwr Sefydliad Cyfarthfa:

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ddangos eu cefnogaeth i Gyfarthfa gyda’r cyllid newydd hwn. Mae’r weledigaeth hirdymor ar gyfer ailddatblygu Castell Cyfarthfa yn debygol o gymryd llawer o flynyddoedd a buddsoddiad pellach sylweddol i’w gwireddu’n llawn. Fodd bynnag, mae’r grant hwn yn golygu y gallwn ni gyflawni newid cadarnhaol ystyrlon i ymwelwyr presennol yn dilyn blwyddyn ddeucanmlwyddiant gyffrous, a dechrau gwneud uwchraddiadau allweddol nawr i’n parc hardd, castell rhestredig Gradd I ac amgueddfa ac orielau gwerthfawr a fydd yn gwella Cyfarthfa i’r gymuned leol ac i ymwelwyr â’r ardal fel ei gilydd.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Rebecca Evans, sy’n gyfrifol am dwristiaeth:

“Mae Castell Cyfarthfa yn un o wir drysorau Cymru, ac mae’n wych gweld cyllid Llywodraeth Cymru yn helpu i’w gyflwyno i hyd yn oed mwy o bobl. Mae cronfa Y Pethau Pwysig yn ymwneud â sicrhau, pan fydd pobl yn ymweld â’n cyrchfannau eiconig, eu bod yn cael y profiad gorau posibl - ac mae’r gwelliannau hyn yng Nghyfarthfa yn gwneud yn union hynny. Mae hyn yn ychwanegol at y £2.25m y gwnaethom ymrwymo drwy Cadw yr haf diwethaf i fynd i’r afael â’r dirywiad i ran hynaf Castell Cyfarthfa, yn ogystal â gwaith i ddiogelu pont Pont-y-Cafnau.

“O gyfleusterau wedi’u huwchraddio yn yr amgueddfa i arwyddion gwell ym mhob rhan o’r parc, mae ein buddsoddiadau’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gymuned leol ac i bawb sy’n teithio i Ferthyr Tudful i brofi’r lle anhygoel hwn.”

Wedi’i adeiladu ym 1825 fel cartref teuluol mawreddog i’r Meistr Haearn William Crawshay II, Castell Cyfarthfa yw’r trysor yng nghoron Merthyr Tudful. Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn mwynhau ymweld â’r castell, ei erddi eang, y llyn, yr ardal chwarae a’i weithgareddau eraill. 

Mae’r datblygiadau hyn i brofiad ymwelwyr wedi bod yn bosibl diolch i gronfa Y Pethau Pwysig gwerth £5M Llywodraeth Cymru, a ddarperir drwy Croeso Cymru, sy’n helpu cynlluniau i gyflawni gwelliannau i seilwaith hanfodol ymwelwyr mewn cyrchfannau twristiaeth ledled y wlad. Yn ogystal â Chyfarthfa, mae yna restr lawn o brosiectau ledled Cymru a fydd yn elwa rhwng 2025 a 2027.
 

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a chael y wybodaeth ddiweddaraf am Gyfarthfa.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×