Sir Simon Jenkins

Sir Simon Jenkins

Newyddiadurwr, awdur a darlledwr yw Simon Jenkins sydd wedi gwasanaethu fel Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a chyn hynny fel Dirprwy Gadeirydd English Heritage. Bu’n olygydd gwleidyddol The Economist am bum mlynedd, ac aeth ymlaen i fod yn olygydd The Times a’r Evening Standard. Mae bellach yn ysgrifennu ddwywaith yr wythnos i’r Guardian a cholofn reolaidd i’r Evening Standard.

Bu’n aelod o fwrdd British Rail, London Transport, Faber and Faber ac ymddiriedolaeth lyfrau Pevsner, ac yn Ymddiriedolwr Comisiwn y Mileniwm, Amgueddfa Llundain, Somerset House, Canolfan South Bank, SAVE, The Thirties Society, a chasgliad lluniadau Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain. Mae’n awdur llyfrau ar eglwysi, tai, pensaernïaeth Llundain a Chymru, yn ogystal ag ar wleidyddiaeth a hanes Lloegr. Llyfr ar bensaernïaeth gorsafoedd sydd ganddo ar y gweill nawr. Cafodd ei urddo’n farchog yn 2004 ac mae’n gymrawd y Society of Antiquaries a’r Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol. Mae’n byw yn Llundain ac yng Nghymru.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×