Sara Turnbull

Sara Turnbull

Entrepreneur cymdeithasol ac amgylcheddwr siartredig yw Sara Turnbull, sydd wedi ennill gwobrau am arwain ym maes cynaliadwyedd a gwerth cymdeithasol. Mae ganddi dros ddwy flynedd ar hugain o brofiad o arwain a ffurfio mentrau cymdeithasol, elusennau a sefydliadau eraill sy’n ymrwymo i greu byd mwy cynaliadwy. Mae hi wedi gweithio’n rhyngwladol ym maes ymgysylltu ac adfywio cymunedol, yn aml yn mentora busnesau newydd cymdeithasol a gwyrdd.

Mae Sara’n byw yn Abertawe ac yn gyfarwyddwr anweithredol ar Grŵp Tai Arfordirol Abertawe, sy’n berchen ar 6,000 o gartrefi yn y De. Mae’n Gadeirydd Cronfa Mannau Gwaith Creadigol Awdurdod Llundain Fwyaf, yn aelod o Fwrdd Datblygu Cynaliadwy Transport for London ac yn gyfarwyddwr anweithredol Awdurdod Marchnad Covent Garden. Bu hefyd yn arwain ar ddatblygu polisïau cynaliadwyedd cymdeithasol ar ran Foster + Partners. Hi yw Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Workwild a Better Off Edits a hi oedd Prif Weithredwr cyntaf Creative Land Trust, yn ogystal â chyn Is-gadeirydd Cyngor Datblygu Cynaliadwy Ewropeaidd yr Urban Land Institute.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×