Julie Finch

Julie Finch

Penodwyd Julie Finch yn Brif Weithredwr Gwyl y Gelli yn 2022 - y chweched sefydliad diwylliannol y mae wedi arwain yn ystod ei gyrfa. Cyn hynny’n bu’n Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth Compton Verney (2018-22) lle bu’n arwain prosiect sylweddol i ddatblygu tirlun o 90 erw a grewyd gan ‘Capability Brown’, gan ddyblu nifer yr ymwelwyr. Bu hefyd yn Brif Weithredwr cyntaf Ymddiriedolaeth Cheltenham (2014-18) lle roedd angen iddi ail-sefydlu’r elusen, wedi symud asedau diwylliannol amrywiol allan o rheolaeth yr awdurdod lleol. Cyn hynny bu’n arwain prosiect i greu amgueddfa newydd i Orllewin Awstralia, gan elwa ar ei phrofiad gyda prosiectau cyfalafol mawr tra’n Gyfarwyddwr Amgueddfeydd, Orielau ac Archifau Bryste. Mae hefyd wei bod  yn aelod o Gyngor Cenedlaethol Cyngor Celfyddydau Lloegr ac yn aelod o Fwrdd De-orllewin Lloegr o Gronfa Treftadaeth y Loteri Cenedlaethol.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×