Hanif Kara

Hanif Kara

Yr Athro Hanif Kara yw cyd-Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Dylunio AKT II, cwmni peirianneg adeiladol a sifil yn Llundain. Dan ei arweiniad creadigol mae’r cwmni’n gysylltiedig â llawer o brosiectau adeiladu arloesol ar wahanol raddfeydd, ac wedi ennill dros 350 o wobrau dylunio, gan gynnwys Gwobr Stirling Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain ar dri achlysur, yn ogystal â Gwobr Lubetkin yr un Sefydliad am Bafiliwn y Deyrnas Unedig yn Expo Shanghai yn 2010.

Mae Hanif wedi ennill statws rhyngwladol yn yr amgylchedd adeiledig, trwy ymarfer, ymchwil arloesol ac addysg ym maes dylunio rhyngddisgyblaethol. Gyda’i angerdd diflino dros ddull o weithio sy’n rhoi lle blaenllaw i’r dylunio, mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau enghreifftiol ac arloesol fu ar flaen y gad wrth wynebu sawl her i’r amgylchedd adeiledig yn y ddau ddegawd diwethaf, gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd.

Mae hefyd yn Athro Ymarfer Technoleg Bensaernïol yn Ysgol Ddylunio Harvard i Raddedigion ac yn ymgynghorydd i Rwydwaith Datblygu’r Aga Khan. Mae’n aelod o Grŵp Dylunio Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×