Geraint Talfan Davies

Geraint Talfan Davies

Awdur a darlledwr yw Geraint Talfan Davies sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus a’r celfyddydau yng Nghymru ers blynyddoedd lawer. Ef yw ysgogydd y prosiect presennol i ddatblygu Castell a Pharc Cyfarthfa ym Merthyr Tudful. Cafodd yrfa ym maes papurau newydd a darlledu gydag ITV a’r BBC ill dau. Bu’n Rheolwr BBC Cymru ac yn Gadeirydd Opera Cenedlaethol Cymru, Cyngor y Celfyddydau ac Ymddiriedolaeth Gelfyddydau Bae Caerdydd, a bu hefyd yn un o sylfaenwyr y Sefydliad Materion Cymreig. Mae’n gyfarwyddwr anweithredol gyda Severn Screen Cyf. ac yn Gymrawd Anrhydeddus o Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×