Geoff Hunt

Geoff Hunt

Mae Geoff Hunt yn Uwch Gyfarwyddwr ac yn aelod o Fwrdd Arup yn y Deyrnas Unedig, ac ef oedd Prif Swyddog Gweithredu Arup rhwng 2016 a 2022.

Yn y rôl hon i’r cwmni ymgynghorwyr peirianneg, cynllunio a rheoli amlddisgyblaethol, roedd ganddo gyfrifoldeb gweithredol llawn dros 6,000 o staff mewn chwe gwlad. Fel cyfarwyddwr corfforaethol yn y sectorau preifat ac elusennol mae ganddo ddiddordeb brwd mewn cynllunio busnes a llywodraethu ar lefel sefydliadol a phrosiect. Mae’n beiriannydd sifil ac adeiladol siartredig ac mae wedi treulio’i yrfa yn y maes fel contractwr, dylunydd ac arweinydd busnes. Mae ganddo ddiddordeb mewn adeiladau hanesyddol a pheirianneg sifil o hyd. Graddiodd Geoff o Brifysgol Abertawe ac mae’n byw ym Mhorthcawl. Bu’n aelod Bwrdd ac yn Gadeirydd Groundwork Cymru ac mae’n aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth Rheilffordd Lynton a Barnstaple.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×