Gemma Durham
Mae Gemma Durham yn farchnadwr proffesiynol profiadol sydd wedi gweithio yn bennaf yn y maes diwylliannol. Cyn ei phenodi i’r swydd hon, bu’n Bennaeth Theatr, Celf a Diwylliant gyda Casnewydd Fyw – swydd yn cynnwys cyfrifoldeb am Theatr a Chanolfan Ddiwylliant Glan yr Afon yng Nghasnewydd. Mae hefyd wedi dal swyddi marchnata yng Nghwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, a bu’n aelod o fwrdd Canolfan Gerddoriaeth Ty Cerdd yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd. Mae hefyd wrthi yn dysgu Cymraeg.