Ewan Jones

Ewan Jones

Pensaer o Gymru yw Ewan, wedi ei eni yng Nghasnewydd a’i fagu ym Mhorthcawl, lle mae llawer o’i deulu yn byw o hyd. Mae’n bartner yn Grimshaw, practis pensaernïol rhyngwladol gyda stiwdios yn Ewrop, Awstralia a’r Unol Daleithiau, a dylunwyr Prosiect Eden. Ac yntau wedi gweithio ar brosiectau cymhleth yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, mae Ewan yn ddylunydd a chyfarwyddwr profiadol. Mae ei bensaernïaeth yn integreiddio peirianneg ac adeiladwaith yn ofalus, a’r cyfan yn cyfrannu at lwyddiant ei gilydd. Wrth arwain timau sydd â’r ddawn o roi sylw creadigol i fanylion, mae’n sicrhau canlyniadau sy’n adeiladau unigryw, arobryn ar draws ystod o raddfeydd a sectorau.

Mae Ewan yn gweithio gyda Chomisiwn Dylunio Cymru ers 2005, gan gynnwys tymor deng mlynedd yn aelod o’r bwrdd. Mae’n dal i gadeirio adolygiadau dylunio ar ran y Comisiwn ac yn cynorthwyo gyda chyngor i gleientiaid a’r llywodraeth.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×