Dr Marion Loeffler

Dr Marion Loeffler

Hanesydd a darlledwr yw Marion Loeffler, sy’n Ddarllenydd mewn Hanes Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd gan arbenigo yn hanes diwydiannol a diwylliannol y Gymru fodern yn ei gyd-destunau Ewropeaidd, ymerodraethol a byd-eang. Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Archif Menywod Cymru ac yn Olygydd Cynorthwyol y Bywgraffiadur.

Yn wreiddiol o Berlin ac yn gyn-fyfyrwraig ym Mhrifysgol Humboldt, mae hi’n siarad Cymraeg yn rhugl, ac wedi cyflwyno rhaglenni dogfen teledu ar themâu hanesyddol i S4C ac ORB yn yr Almaen, ac mae’n cyfrannu’n rheolaidd i Radio Cymru a Radio Wales.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×