Dr Carol Bell

Dr Carol Bell

Diwydiannwr, ariannwr ac ymddiriedolwr elusennau gyda chryn brofiad yw Carol Bell, sy’n hanu’n wreiddiol o Felindre, Abertawe. Mae’n aelod o fwrdd Banc Datblygu Cymru, yn aelod o gyngor Research England, yn Is-lywydd Amgueddfa Cymru, yn Is-gadeirydd Canolfan Mileniwm Cymru ac yn aelod benywaidd cyntaf bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Ar hyn o bryd mae Carol yn gwasanaethu ar fyrddau tri chwmni cyhoeddus: Bonheur (ynni adnewyddadwy Norwy), Tharisa (cwmni mwyngloddio platinwm yn Ne Affrica) ac Ymddiriedolaeth Incwm Ynni ac Adnoddau BlackRock. 

Yn 2019, roedd yn un o sylfaenwyr Chapter Zero, sy’n rhan o Fenter Llywodraethu Hinsawdd Fforwm Economaidd y Byd, sy’n helpu cyfarwyddwyr anweithredol i gynnwys risg hinsawdd yn eu strategaethau a’u cynlluniau buddsoddi. Mae ei diddordebau academaidd yng Ngholeg Prifysgol Llundain yn cynnwys datblygiad dulliau mwyndoddi metel a masnachu metelau yn y cynfyd. Hi yw cadeirydd yr Ysgol Brydeinig yn Athen ac mae’n Drysorydd y Sefydliad Astudiaethau Archaeo-metelegol. Mae’n byw yn Llundain a Chaerdydd.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×