Cllr. Lisa Mytton

Cllr. Lisa Mytton

Mae Lisa Mytton yn gyn-Arweinydd Cyngor Merthyr Tudful ac yn gyn-Aelod Cabinet dros Ddysgu. Hi yw aelod etholedig ward y Faenor ers 2008. Yn 2012-13 hi oedd Maer ieuengaf erioed Merthyr Tudful. Mae wedi gweithio ers dros 20 mlynedd mewn addysg ôl-16, gan ddelio’n bennaf â phrentisiaethau, ac yn fwy diweddar fel Arolygydd Cymheiriaid i Estyn. Mae’n llywodraethwr ar Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa ac mae hefyd wedi cynrychioli Merthyr Tudful ar Gyd-Bwyllgor Addysg Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×