Jess Mahoney
Yn enedigol o Ferthyr Tudful, mae Jess wedi treulio dros bymtheg mlynedd yn gweithio yn y sector diwylliant a threftadaeth a'r economi greadigol. Yn angerddol am bartneriaethau, pobl, lleoedd a phwrpas, mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys rolau yn y Llyfrgell Brydeinig, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a'r Central School of Ballet, ynghyd â gweithio mewn amrywiaeth o wyliau a digwyddiadau diwylliannol yn y DU. Rhwng 2019 a 2022 roedd ganddi uwch rôl polisi yn Awdurdod Llundain Fwyaf yn cyflwyno rhaglen Parthau Menter Creadigol blaenllaw Maer Llundain. Yn fwy diweddar bu'n gweithio yng Nghanolfan yr Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd fel Pennaeth Caerdydd Greadigol – rhwydwaith y diwydiannau creadigol o dros 5,000 o fusnesau ac unigolion sy'n ymgymryd â gwaith ymchwil, polisi ac ymgysylltu i gyflawni gweledigaeth ar gyfer rhanbarth de-ddwyrain Cymru fel clwstwr diwylliannol cysylltiedig, cydweithredol a chynhwysol.