
Cllr. Brent Carter
Brent Carter yw Arweinydd Cyngor Merthyr Tudful ac mae wedi bod yn arweinydd y Grŵp Llafur ers 2024. Cafodd ei ethol i’r Cyngor yn 2008 ac mae wedi gwasanaethu fel Aelod Portffolio ar gyfer y gwasanaethau Cymdeithasol a Chadeirydd y Pwyllgor Cymorth Corfforaethol a Chraffu ar Adnoddau. Cafodd ei fagu ym Merthyr Tudful a mynychodd Ysgol Uwchradd Cyfarthfa. Bu’n gweithio i lywodraeth ganolog a sefydliadau cyllid am y rhan fwyaf o’i yrfa. Mae hefyd yn Llywodraethwr Ysgol Gymunedol Abercannaid.