Ym mis Hydref 2017 daeth dros 60 o arbenigwyr a sefydliadau cymunedol at ei gilydd i drafod syniadau mewn digwyddiad a drefnwyd gan Gomisiwn Dylunio Cymru, gyda chymorth Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Canlyniad hynny oedd adroddiad ‘Y Pair’ a’r weledigaeth o greu canolfan genedlaethol yng Nghyfarthfa ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol.
Aileni
Y stori hyd yn hyn
Y CYNLLUN
Cyflwynodd Cynllun Cyfarthfa weledigaeth ddiymatal, strategol lefel uchel ar gyfer ardal Cyfarthfa. Tasg y Sefydliad nawr yw cymryd ysbrydoliaeth o’r cam diffinio strategol, a datblygu camau cyflawnadwy, ond uchelgeisiol, i gyflwyno trawsnewidiad.
Bydd y Sefydliad yn datblygu briff ar gyfer y prosiect a fydd yn diffinio prosiect y gellir ei ariannu a’i gyflawni, wedi’i lywio gan weledigaeth ehangach. Rydym eisiau iddo fod yn greadigol ac yn ysbrydoledig, ond hefyd yn gynaliadwy ac yn hyfyw yn ariannol am genedlaethau i ddod.
Nododd Cynllun Cyfarthfa syniadau mentrus ar gyfer y prosiect, y bydd rhai ohonynt yn anodd eu gwireddu yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni. Rôl y Sefydliad yw gwireddu’r camau tuag at sefydliad cenedlaethol i Ferthyr ac i Gymru, drwy ddatblygu prosiect fforddiadwy y gellir ei gyflawni.
Gweledigaeth Feiddgar ar gyfer Cyfarthfa a Thu Hwnt
Comisiynwyd Cynllun Cyfarthfa yn 2020 gyda’r bwriad o drawsnewid amgueddfa a thirnod lleol poblogaidd yn amgueddfa a thir sy’n gwbl deilwng o’i hanes a’i threftadaeth ac ar raddfa ac ansawdd sy’n gweddu i’w phwysigrwydd.
Mae Cynllun Cyfarthfa yn cyflwyno gweledigaeth rymus ar gyfer y degawdau nesaf
Gweledigaeth feiddgar ac uchelgeisiol yw hon ac nid glasbrint y caiff pob manylyn ohono ei weithredu’n fanwl. Rhaid i ni fod yn realistig ac ymateb i’r hinsawdd economaidd a gwleidyddol cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd y cynllun yn esblygu wrth i’r amgylchedd newid ac wrth i ni ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y gymuned. Ond mae’n siŵr mai parhau wnaiff y themâu craidd.
Y tair thema sy’n sail i Gynllun Cyfarthfa yw hanes a threftadaeth, yr amgylchedd naturiol a chreadigrwydd. Tra bo’r themâu cydgysylltiol hyn yn tynnu ar y gorffennol, maent hefyd yn berthnasol i gwestiynau pwysfawr heddiw.
Yr amgylchedd naturiol
Mae Cynllun Cyfarthfa’n disgrifio taith amgylcheddol y cwm hwn fel taith o ‘wyrdd i ddu i wyrdd eto’ gyda llanw a thrai’r diwydiannau allweddol.
Diwylliant, Creadigrwydd ac Adnewyddu Cymdeithasol
Mae’r prosiect hwn eisoes wedi manteisio ar greadigrwydd aruthrol y penseiri a’r tirlunwyr a’r disgyblaethau eraill a luniodd Gynllun Cyfarthfa, gyda’i syniadau amrywiol nid yn unig o ran datblygiad ffisegol, ond hefyd o ran addysg ac ymgysylltu.
Cynaliadwyedd
Mae Cynllun Cyfarthfa yn weledigaeth strategol hirdymor, a fydd nid yn unig yn datgelu pwysigrwydd byd-eang hanes diwydiannol Merthyr Tudful ond hefyd yn gweithio mewn cytgord â natur i drawsnewid ardal Cyfarthfa.
Bydd y prosiect yn tyfu ochr yn ochr â bywydau’r genhedlaeth ieuengaf wrth iddyn nhw dyfu’n oedolion. Bydd yn gyfle mawr i ganolbwyntio’r sgwrs ar newid hinsawdd er mwyn creu manteision sylweddol i bobl y dref a Chymru.
Yng ngeiriau Cynllun Cyfarthfa: ‘gyda digonedd o fannau gwyrdd ac amgylcheddau naturiol ar gyfer ailwylltio ar stepen y drws, mae gan yr ardal lu o safleoedd dynodedig o bwysigrwydd amgylcheddol. Byddwn ni’n creu prosiect fydd yn esiampl i ddangos grym ac effeithiolrwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru.’