Y Stori Hyd Yma


2025
Mawrth
BBC Cymru yn cyhoeddi casgliad newydd o gynnwys sy’n dathlu Merthyr Tudful. mae BBC Cymru Wales wedi ffurfio partneriaeth â Grŵp Llywio Merthyr 2025, sy’n cynnwys Sefydliad Cyfarthfa, Cyngor Merthyr, Castell Cyfarthfa a Chyngor Celfyddydau Cymru.

2025
Chwefror
Cyngor Merthyr Tudful yn cyhoeddi cynlluniau i ddiogelu Castell Cyfarthfa, gan ganolbwyntio ar 'gam un' i warchod a gwella ochr 'plasty' yr adeilad – lle mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa wedi'i lleoli.
Cyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mewn partneriaeth â'r cyngor.
Datblygu strategaeth Arwyddion, Canfod Ffyrdd a Brandio ar gyfer Parc Cyfarthfa.

2025
Ionawr
Penodi Jess Mahoney yn ail Brif Weithredwr.
Penodwyd ymgynghorwyr pensaernïol a rheoli prosiect i ddiffinio briff ar gyfer 'cam un' prosiect y castell.
Comisiynwyd yr Arolwg Ecoleg Rhagarweiniol ar gyfer datblygu atyniad twristaidd awyr agored ym Mharc Cyfarthfa.
Dechrau dathliadau deucanmlwyddiant Castell Cyfarthfa.
2024
Medi
Cyflwyno rhaglen Fforwm Cymunedol Cyfarthfa gyda chymdeithasau a sefydliadau treftadaeth a diwylliannol lleol.
2024
Gorffennaf
Cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru na fydd prosiect Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru yn mynd rhagddo oherwydd diffyg cyllid.

2024
Mai - Tachwedd
Astudiaethau dichonoldeb sy'n ymchwilio i'r galw a'r enillion ar fuddsoddiad am atyniadau awyr agored ym Mharc Cyfarthfa.
Llun: Barker Langham

2024
Ebrill
Barker Langham, ymgynghoriaeth ddiwylliannol flaenllaw, yn dechrau gweithio i ddiffinio thema naratif ac achos busnes pellach ar gyfer Cyfarthfa.
Penodi Cyfarwyddwr Brand ac Ymgysylltu.
Llun: Barker Langham
2024
Ionawr
Meincnodi ariannol gydag amgueddfeydd, orielau ac atyniadau tebyg a gynhaliwyd gan ymgynghorwyr, Fourth Street, i brofi goblygiadau refeniw gwahanol fodelau busnes ar gyfer datblygu'r castell.
Sefydlwyd gweithgor daucanmlwyddiant gyda phartneriaid i ddatblygu rhaglen weithgareddau i ddathlu daucanmlwyddiant Cyfarthfa yn 2025.
2023
Awst
Asesiad Opsiynau ac Astudiaeth Effaith Economaidd yn asesu'r prosiectau a nodir yng Nghynllun Cyfarthfa.
Astudiaeth Tirwedd yn cael ei gynnal gan y penseiri tirwedd Grant Associates i asesu potensial y parc presennol a datblygiad ardal ehangach ffwrneisi Cyfarthfa.

2023
Mai
Cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru i Cyfarthfa fod yn safle angori ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru.
Ym mis Medi 2022, derbyniodd Llywodraeth Cymru 14 o ddatganiadau o ddiddordeb am leoliadau i ddod yn safle angori ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru. Gwahoddwyd pum ardal awdurdod lleol: Wrecsam, Abertawe, Casnewydd, Caerdydd a Merthyr Tudful i ddatblygu eu cynlluniau ymhellach.
Roedd hwn yn gais sylweddol a treuliwyd misoedd yn ei ddatblygu gan gynnwys cyfraniad gan benseiri, academyddion ac arbenigwyr o bob rhan o'r sector treftadaeth. Cafodd datblygiad y cais ei lywio gan ymgynghoriad cyhoeddus.
Dogfen 'Celf yng Nghyfarthfa'

2023
Mawrth-Ebrill
Penodi tîm staff gan gynnwys Cydlynydd Prosiect, Rheolwr Datblygu Cymunedol a Rheolwr Cyllid.
Lansiwyd Fforwm Parc Cyfarthfa, i ddod ag amrywiaeth o bartneriaid at ei gilydd i weithio ar y cyd ar draws Parc Cyfarthfa.

2022
Medi
Penodi'r Prif Weithredwr cyntaf.
2022
Mawrth
Diwedd cyfyngiadau Covid.
2021
Hyd
Recriwtio bwrdd llawn ar gyfer y Sefydliad.
2021
Awst
Cynnal Astudiaeth Archifau Merthyr Tudful - cyhoeddwyd astudiaeth fawr o ystod eang o archifau yng Nghymru a'r DU, i nodi deunyddiau ffynhonnell a allai gyfrannu at arddangosfeydd yng Nghastell Cyfarthfa.

2021
Gwanwyn
Lansiad cyhoeddus yr uwchgynllun a ddatblygwyd - Cynllun Cyfarthfa
Llywodraeth Cymru yn cadarnhau grant o £1.2m i Sefydliad Cyfarthfa, i ddechrau cynlluniau ac i ddechrau codi'r arian angenrheidiol.
Llun: Gustafson Porter & Bowman
2020
Tachwedd
Sefydliad Cyfarthfa yn cael ei sefydlu fel cyfrwng diben arbennig i hybu’r weledigaeth ar gyfer Cyfarthfa. Elusen gofrestredig a chwmni cyfyngedig trwy warant.
2020
Mawrth
Cyfyngiadau symud Covid yn dechrau.

2019
Mehefin
Yn dilyn cyhoeddi briff gan Gomisiwn Dylunio Cymru, a thennill cystadleuol, dewis Penseiri Ian Ritchie i arwain ymarfer uwchgynllun ar gyfer Cyfarthfa. Yr uwchgynllun yn nodi syniadau ar gyfer adeiladau, mannau, symudiad a defnydd tir. Roedd y broses yn cynnwys ymgynghori helaeth ag ysgolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau treftadaeth.
2018
Mai
Cyhoeddi adroddiad gan Gomisiwn Dylunio Cymru, a ysgrifennwyd ar y cyd â Geraint Talfan Davies – Adroddiad Crucible. Mae'n argymell datblygu'r castell a'r ystad fel canolfan genedlaethol ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol ac fel prosiect angori wrth ddatblygu potensial twristiaeth cymoedd de Cymru. Y Cyngor yn derbyn yr argymhellion yn unfrydol.

2017
Hyd
Cynnal ‘charette’ dylunio - gweithdy sy'n dod ag arbenigwyr o wahanol ddisgyblaethau ynghyd ag aelodau o'r gymuned. 60 o bobl yn cwrdd yng Nghastell Cyfarthfa ac, gyda chymorth Comisiwn Dylunio Cymru ac Ysgol Pensaernïaeth Cymru, yn meddwl am syniadau ar gyfer datblygu Cyfarthfa.