Still have a question?
Check out our full FAQ section
Croeso i Gyfarthfa ym Merthyr Tudful, lle mae Sefydliad Cyfarthfa yn hyrwyddo'r gwaith o drawsnewid ein castell a’i barc yn ganolfan ddiwylliannol ac yn atyniad o arwyddocâd cenedlaethol i ymwelwyr.
Sefydliad elusennol a grëwyd ar gyfer yr unig ddiben o wireddu cynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu Castell a Pharc Cyfarthfa ym Merthyr Tudful yn amgueddfa ac oriel o ansawdd rhyngwladol, mewn parc godidog.
Creu elusen annibynnol yw’r unig ffordd ymarferol o gasglu’r cyllid angenrheidiol – o ffynonellau llywodraethol, cenedlaethol, busnes ac elusennol. Bydd y Sefydliad yn canolbwyntio’n llwyr ar ddatblygu Cyfarthfa ac asedau treftadaeth eraill ym Merthyr er mwyn sicrhau’r manteision gorau posibl i’r gymuned – yn economaidd, addysgol, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.
Sefydliad elusennol yw’r strwythur mwyaf cyffredin a fabwysiedir gan gyrff mawr yn y sector diwylliannol – amgueddfeydd, orielau a sefydliadau celfyddydol eraill – megis Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru.
Ie, hwn oedd Cynllun Cyfarthfa a gafodd ei baratoi gan dîm rhyngwladol dan arweiniad penseiri Ian Ritchie a phenseiri tirwedd, Gustafson, Porter a Bowman. Cafodd ei lansio ym mis Ionawr 2021, yn ystod cyfnod cyfyngiadau symud Covid. Roedd yn cyflwyno gweledigaeth lefel uchel o 20 mlynedd ar gyfer ardal Cyfarthfa. Tasg y Sefydliad nawr yw troi’r weledigaeth hon yn gynllun manwl.
Mae llawer o waith cynllunio i’w wneud, a chodi arian. Bydd hyn yn cymryd nifer o flynyddoedd. Rhaid i ni fod yn realistig ac ymateb i’r hinsawdd economaidd a gwleidyddol cenedlaethol a rhyngwladol. Mae Bwrdd y Sefydliad a thîm bach eisoes ar waith. Mae astudiaethau manwl yn cael eu cynnal hefyd i benderfynu'n union beth sydd angen ei wneud.
1. i achub adeiladwaith y castell sydd mewn cyflwr gwael iawn
2. i gynllunio arddangosfeydd newydd i adrodd stori bwerus Merthyr
3. i ehangu’r orielau celf
4. i wella ac ehangu’r parc 160 erw
5. i gynnwys y gymuned yn llawn yn y broses.
Rydym eisoes yn cyflwyno’r achos dros fuddsoddi i Lywodraeth Cymru, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a rhoddwyr eraill.
Mae’n hanfodol fod y prosiect hwn yn cael ei gyflawni gyda chyfranogiad agos a gweithredol y gymuned leol. Roedd yr uwchgynllun yn cynnwys llawer o syniadau a gafodd eu dylunio i wneud pobl Merthyr Tudful a rhanbarth y cymoedd yn ganolog yn y prosiect – er mwyn sicrhau y bydd o’r lle, nid dim ond ar gyfer y lle. Mae’r Sefydliad wedi ymrwymo’n llwyr i wireddu hynny o’r cychwyn cyntaf. Wrth i brosiectau ddatblygu, byddwn ni’n sicrhau bod cyfleoedd i drafod a datblygu cyn gwneud penderfyniadau.
Credwn y gallai’r cynllun sicrhau miliynau o bunnoedd mewn gwerth cymdeithasol ac economaidd bob blwyddyn, drwy wariant uniongyrchol, gwariant anuniongyrchol a gwariant a gymhellir, a thrwy gymryd rhan mewn rhaglennu cyhoeddus. Bydd hyn yn digwydd ar ffurf swyddi newydd, cymorth i fusnesau bach, a mwy o wariant yn yr economi leol o ganlyniad i gynnydd mewn twristiaeth. Bydd elfennau cymdeithasol hefyd: er enghraifft, bydd ystod ehangach o raglennu yn helpu i ddod â chymunedau ynghyd, i sicrhau bod pobl yn egnïol ac i fynd i’r afael ag ynysu cymdeithasol.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now