Cyfarthfa200
Castell Cyfarthfa yw un o brif drysorau Merthyr Tudful. Bob blwyddyn mae miloedd o bobl yn mwynhau ymweld â'r castell a'i erddi eang, y llyn, y man chwarae a gweithgareddau eraill.
Adeiladwyd y castell ar gyfer yr haearnfeistr William Crawshay II ym 1825. Heddiw mae'n gartref i Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa gydag arteffactau hanesyddol sy'n gysylltiedig â gorffennol Merthyr Tudful - yn amrywio o gasgliad celf nodedig i chwiban stêm gyntaf y byd.
Yn 2025, bydd Castell Cyfarthfa yn dathlu ei daucanmlwyddiant. Yn ystod y flwyddyn cynhelir rhaglen o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd hwyliog, cyffrous ac addysgiadol i nodi ei bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol ac i ddathlu hanes y bobl a'r cymunedau a'i wnaeth.
Ewch i'r Visit Merthyr i weld beth sydd ymlaen.
Os oes gennych chi ddigwyddiad i gael eich cynnwys fel rhan o ddathliadau Cyfarthfa200, cyflwynwch fanylion yma.